Yr Eisteddfod yn gwahodd enwebiadau ar gyfer dwy fedal arbennig
Categori: Celfyddydau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth, Newyddion

Deg diwrnod yn unig sydd i fynd os ydych am enwebu rhywun ar gyfer dwy o anrhydeddau’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Bydd dwy Fedal arbennig yn cael eu cyflwyno yn ystod y brifwyl yn mis Awst eleni, sef y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg er Anrhydedd, a Medal Goffa Syr TH Parry-Williams. Bydd angen cyflwyno enwebiadau i’r Eisteddfod erbyn 31 Ionawr.
Mae’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg er Anrhydedd yn cydnabod ac anrhydeddu cyfraniad helaeth unigolion sydd wedi creu argraff ym myd gwyddoniaeth a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae enillwyr diweddar yn cynnwys Twm Elias, Hefin Jones a Deri Tomos.
Mae gwobr Medal Goffa Syr TH Parry Williams yn gwobrwyo cyfraniad cymunedol i’r iaith a diwylliant, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc a thrigolion eu hardal. Gwahoddir enwebiadau gan grwpiau ac unigolion ac fe fydd y sawl sydd yn cael eu gwobrwyo yn cael eu hanrhydeddu ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod.
Parry-Williams
Bu Syr TH.Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams. Mae enillwyr diweddar yn cynnwys Falyri Jenkins, Meinir Lloyd a Mair Carrington Roberts.
Ceir ffurflen enwebu ar gyfer y ddwy wobr ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru, (www.eisteddfod.cymru/medal-thpw a www.eisteddfod.cymru/medal-wyddoniaeth) a gellir cwblhau’r broses i gyd ar-lein neu trwy gysylltu â’r swyddfa ar 0845 4090 300.
Y dyddiad cau ar gyfer pob ffurflen enwebu yw 31 Ionawr, a chyflwynir y gwobrau yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ym mis Ebrill.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.