Yr Alban wedi eu hysbrydoli gan gynllun Iaith Gwaith Comisiynydd y Gymraeg

14/10/2019

Categori: Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Heddiw mae’r Bòrd na Gàidhlig neu Bwrdd yr Iaith Aeleg wedi lansio ymgyrch newydd i annog siaradwyr Gaeleg i roi gwybod i bobl yn yr Alban a thu hwnt eu bod yn gallu siarad yr iaith.

Mae’r ymgyrch wedi ei hysbrydoli gan y cynllun ‘Iaith Gwaith’ yng Nghymru, sy’n annog siaradwyr Cymraeg i wisgo’r swigen oren i ddangos i gwsmeriaid eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
 
Mae siaradwyr a dysgwyr Gaeleg yn cael eu hannog i ddefnyddio’r hashnod #cleachdi – neu #useit – gyda’r hashnod #gaidhlig (sef Gaeleg) wrth siarad gyda’i gilydd – ar gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu wefannau.
 
Maent hefyd yn cael eu hannog i wisgo cortyn gwddf, bathodyn neu sticer gyda swigen siarad gwyrddlas arni, i ddangos i’r byd eu bod yn falch o allu siarad yr iaith.
 
Yn ôl Shona MacLennan, Prif Weithredwr y Bòrd na Gàidhlig: “Rydym yn falch iawn o fod yn lansio’r cynllun hwn yn ystod ein digwyddiad cenedlaethol Gaeleg, y Royal Mòd. Mae mwy a mwy o bobl eisiau defnyddio a dysgu’r Aeleg ac mae’r cynllun hwn yn ffordd hawdd iawn o annog pobl i ddefnyddio’r Aeleg mewn mwy o lefydd. Mae’n wych ein bod yn gallu edrych ar sut mae ein cyd-Geltaid yn hyrwyddo eu iaith a dilyn eu harweiniad hwy gyda’r ymgyrch yma.
 
“Byddwn ni yn sicr yn y Bòrd na Gàidhlig yn falch iawn o ymuno yn yr ymgyrch hon i ddangos ein balchder o allu siarad yr iaith ac adnabod pobl eraill all ei siarad. Rydym yn credu mai #clachdi yw’r ffordd berffaith o wneud hynny. Felly dewch i ni ei defnyddio a rhoi #gaidhlig ar y map.”

 

Ennill ei blwy

 

Ychwanegodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg: “Mae Iaith Gwaith wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru, ac yn adnodd defnyddiol i sefydliadau, busnesau ac elusennau i ddangos i gwsmeriaid pwy all siarad Cymraeg. Yn y blynyddoedd diweddar, mae wedi datblygu ac yn cael ei ddefnyddio mewn amryw o ffyrdd newydd yn amrywio o gwmni peirianneg yn rhoi fersiwn ‘vinyl’ ar hetiau caled i fyrddau iechyd yn creu fersiynau magnet i roi ar welyau er mwyn dangos pa gleifion sy’n dymuno derbyn gofal yn y Gymraeg. 

 
“Mae’r cynllun yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru ac rwyf yn falch iawn o fod yn rhan o’r lansiad hwn yn yr Alban heddiw.”