Ymgyrch Syniadau Mawr Cymru i ddod o hyd i entrepreneuriaid ifanc gorau Cymru wedi cychwyn eto
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Cystadlaethau, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Newyddion

Mae ymgyrch Syniadau Mawr Cymru i ddod o hyd i entrepreneuriaid ifanc gorau Cymru wedi cychwyn eto. Mae Syniadau Mawr Cymru yn chwilio am bobl ifanc 16-24 oed sydd â'r talent, y cymhelliant a'r ymrwymiad i roi eu busnes ar y llwybr cyflym i lwyddiant.
Drwy ymgymryd a #YrHer byddwch yn:
- Cael eich ysbrydoli gan entrepreneuriaid rhagorol mewn bŵtcamp busnes 3 diwrnod o hyd
- Cael mynediad at gymorth busnes a gynigir drwy Busnes Cymru a sefydliadau partner
- Rhwydweithio gydag entrepreneuriaid ifanc eraill sydd â'r un meddylfryd
- Cael eich hyfforddi a'ch herio am eich busnes yn ystod pob cam
- Lansio a datblygu eich busnes
Os ydych chi yn:
- · 16-24 mlwydd oed ar adeg ymgeisio
- · Cymwys i fyw a gweithio yn y DU
- · Meddu ar syniad busnes dichonadwy gydag ymchwil marchnad i'w gefnogi
- · Naill ai wedi cychwyn masnachu yn 2014 neu wedi ymrwymo i gychwyn yn 2015 a hynny yng Nghymru
Os allwch ateb y meini prawf isod yn gadarnhaol, yna mae Her Syniadau Mawr Cymru i chi - Peidiwch Oedi.....Ymgeisiwch heddiw
Dywedodd Caryl Thomas, Sparkles Cleaning, Castell-nedd a fu yn rhan o’r Her llynedd:
“Roedd Bŵtcamp Syniadau Mawr Cymru yn wych. Nid yn unig y cefais i’r cyfle i rwydweithio gyda rhai o brif entrepreneuriaid y wlad, ond cefais hefyd y cyfle drwy gydol y penwythnos i ofyn iddynt yn bersonol sut wnaethon nhw wireddu eu breuddwydion.”
Ychwanegodd Manon Llwyd Rowlands, Rheolwr Prosiect, Gwasanaeth Entrepreneuriaeth Pobl Ifanc 16-24 “Mae ymgyrch Syniadau Mawr Cymru yn cynnig cefnogaeth a chymorth i bobl ifanc gychwyn ar eu siwrnai hwy i ddatblygu a lansio eu busnes. Drwy’r prosiect gallwn ni eu helpu drwy'r camau o feddwl am eu syniad mawr hyd at ei ddatblygu ym mhellach, gyda’r nôd o’i lansio. Mae’r ymgyrch yn hanfodol bwysig i sicrhau fod pobl ifanc Cymru yn ymwybodol o’r ffaith fod hunan gyflogaeth yn opsiwn dichonol ar gyfer eu dyfodol"
Am fwy o fanylion ar sut i ymgeisio, ewch i wefan Syniadau Mawr Cymru - mae'r dyddiad cau ar y 31 Hydref, 2014.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net