Ymchwil yn edrych ar greu coetiroedd y dyfodol

27/01/2021

Categori: Addysg, Amgylchedd, Newyddion

Gyda Llywodraeth Cymru yn addo degau o filiynau o bunnoedd ar gyfer cynlluniau plannu coed, mae myfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn edrych ar ba mor dda mae coed sydd heb eu plannu ac sy’n tyfu y tu allan i goetiroedd yn sefydlu, a sut y gallem gynnwys y coed hyn mewn cynlluniau cyffredinol i ehangu coetiroedd.

“Yn ôl adroddiad diweddaraf y llywodraeth, mae tua 3 y cant o goed yn tyfu y tu allan i goetiroedd presennol sydd wedi’u mapio,” eglurodd Theresa Bodner, myfyriwr PhD yn ei thrydedd flwyddyn yng Nghanolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts ym  Mhrifysgol Bangor. 
“Mae'r rhain yn cynnwys coed sydd wedi cytrefu’n naturiol ar dir oedd heb goed yn flaenorol. Mewn gwlad lle dim ond tua 13 y cant o orchudd coetir sydd gennym i ddechrau, mae hynny’n 750,000 hectar o orchudd coed ychwanegol y gellir ei ddefnyddio i gyflawni targedau newid yn yr hinsawdd. Mae hwn yn amlwg yn adnodd gwerthfawr ac yn un nad ydym yn gwybod fawr ddim amdano, gan nad yw'r coed hyn wedi'u cynnwys ar fapiau ffurfiol a chynlluniau plannu.”

Mae Theresa yn defnyddio map sy'n dangos manylion am leoliad a phriodoleddau dros 300 miliwn o goed, gan ganolbwyntio ar ucheldiroedd y Carneddau: tua 21,000 hectar yng ngogledd Parc Cenedlaethol Eryri yng Nghymru. Mae hon yn dirwedd gymhleth iawn gydag iseldiroedd, ucheldiroedd, gwahanol fathau o ddefnyddiau tir, gwahanol berchnogaeth tir, ardaloedd gwarchodedig, sawl ardal o dir cyffredin, hawliau pori, a phwysigrwydd diwylliannol ac archeolegol gwahanol.
 
Meddai Theresa:“Dyma’r lle perffaith i edrych ar goed y tu allan i goetiroedd nid yn unig fel pwnc coedwigaeth, ond hefyd o ran perthynas ehangach â defnyddiau tir gwahanol iawn.  Gallwn edrych ar leoliad coed y tu allan i goetiroedd, ar ba fath o dir y maent yn tyfu a'u swyddogaeth bosibl o ran cwrdd â’n targedau coetir."
“Rwy’n defnyddio data Map Coed Cenedlaethol Bluesky. Mae'n ddefnyddiol iawn gyda’r ymchwil hon oherwydd dyma'r adnodd agosaf sydd gennym i ddeall cytrefiad naturiol coed yn nhirwedd Prydain.” 
 
Trwy ddefnyddio’r system gwybodaeth ddaearyddol QGIS, mae Theresa a’i chydweithwyr yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol yn cymharu data'r Map Coed Cenedlaethol gyda mapiau eraill sydd ar gael i'r cyhoedd. Mewn cyfuniad â chyfweliadau â rhanddeiliaid, bydd hyn yn eu helpu i ddeall ble mae coed nad ydynt yn goed coetir a sut maent yn berthnasol i gynlluniau coetir arfaethedig, megis cynllun rheoli tir Glastir yng Nghymru.
 
Cyn gwneud ei PhD, roedd Theresa, o Gmünd, Awstria, wedi cwblhau ei gradd Meistr ym Mhrifysgolion Padova a Bangor, ac mae ganddi gefndir mewn cynllunio digwyddiadau.
Ar ôl treulio cyfnod cyfnewid ym Mhrifysgol Bangor, dewisodd ddychwelyd. Dywed bod maint bach Bangor yn ei helpu i ganolbwyntio ar ei gwaith a meddai:
 
“Dewisais Bangor oherwydd credaf y gall y lle hwn fod yn un o sefydliadau ymchwil, arloesi a chynaliadwyedd traws-sector y dyfodol - mewn amgylchedd lle gallaf gerdded ar hyd y traeth a dringo mynydd ar yr un diwrnod. Beth arall sydd ei angen ar rywun - yn oes y rhyngrwyd does dim angen poeni am bellter gofodol bellach, beth bynnag!”
 
“Mae ehangu coetiroedd yn bwnc llosg a pherthnasol iawn, ac roedd geiriad fy nghynnig project PhD yn agored iawn felly mae gen i lawer o hyblygrwydd i ddiffinio’r hyn rydw i eisiau ei wneud,” ychwanegodd.

 

Ymchwil amserol

 

Ychwanegodd Dr Norman Dandy, Cyfarwyddwr Canolfan Syr William Roberts: “Mae ymchwil Theresa yn amserol iawn gan fod rhagor o sylw yn cael ei roi bellach i ffyrdd y gellir ehangu coetiroedd trwy ddulliau sydd dim ond angen ymyriad rheoli gyfyngedig. Mae adfywio a chytrefu naturiol, yn cynnwys gan goed y tu allan i goetiroedd, yn cael ei gymryd yn gynyddol o ddifri fel ffordd o liniaru newid yn yr hinsawdd. Bydd gwaith Theresa a dadansoddiad system gwybodaeth ddaearyddol yn sylfaen i ymchwil bellach ym Mangor yn y maes hwn.”