Ymchwil yn dangos bod gwell gwerthuso a chyllido yn hybu ymdrechion i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol

12/11/2019

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Fe fyddai ymdrechion i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol ymysg plant a phobl ifanc yn elwa o wella’r ffordd y mae prosiectau yn cael eu gwerthuso, ac o gyllid digonol, yn ol casgliadau ymchwil.

Dyna rai o gasgliadau i weithgareddau hyrwyddo iaith yn y gwledydd Celtaidd.

Fe gynhaliodd academyddion o brifysgolion Aberystwyth a Chaeredin ymchwil ar weithgareddau mudiadau yn yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol fel rhan o brosiect ehangach am Addysg, Iaith a Hunaniaeth. 

 

Cyflawnwyd y gwaith fel rhan o brosiect Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil a ariennir gan yr ESRC, gan yr Athro Rhys Jones, Dr Elin Royles (Prifysgol Aberystwyth) a’r Athro Lindsay Paterson a’r Dr Fiona O’Hanlon (Prifysgol Caeredin).
Mae’r adroddiad yn nodi gwahaniaethau sylweddol yn y lefelau o gefnogaeth a roddir gan lywodraethau i weithgareddau hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol ymysg plant a phobl ifanc ar draws y gwledydd Celtaidd. 

 

Hefyd, canfuwyd bod dulliau gwerthuso’r gweithgareddau hyn yn y mwyafrif o achosion yn rhy ddibynnol ar fesuryddion meintiol ar y cyfan, heb roi sylw digonol i fesur allbynnau drwy brosiectau perthnasol yn nhermau’r effaith ar ddefnydd iaith ac ar agweddau, gan gynnwys yn y tymor hir.

 

I’r mudiadau sy’n cynnal gweithgareddau hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol gyda phlant a phobl ifanc yn y gwahanol achosion, mae’r dulliau gwerthuso a gytunir â’u cyllidwyr yn amrywio’n sylweddol. 

 

Roedd rhai yn datblygu ffyrdd mwy cadarn o asesu a gwerthuso gweithgareddau.  Roedd eraill naill ai yn canolbwyntio’n ormodol ar adrodd niferoedd yn hytrach na mesur ardrawiad ar lefelau o ddefnydd ac agweddau tuag at yr iaith dros gyfnod, neu roedd diffyg sylw ar werthuso goblygiadau ieithyddol eu gwaith. 

 

Dangosodd mudiadau a gymerodd ran yn y gwaith awydd i ddysgu a gwella darpariaeth, ond doedd mesuryddion gwerthuso ddim bob amser yn addas i’w helpu i wneud hynny.
Meddai’r Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth fod y prosiect ymchwil wedi adnabod gwelliannau pwysig sydd angen eu gweithredu gan fudiadau a’u cyllidwyr.

 

“Mae’n gwaith ymgysylltu a chydweithio gyda mudiadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn dangos pwysigrwydd cyfnewid profiadau ac arferion er mwyn cryfhau ymdrechion byd-eang i hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.  Dangosodd mudiadau lefelau uchel o frwdfrydedd ac angerdd dros ddyfodol eu hieithoedd yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Er gwaetha’r gwahaniaethau ar draws achosion, rydym wedi dod o hyd i themâu cyffredin pwysig yn eu profiadau.

 

“Mae’r cyd-destun cyllido a pholisi ym mhob cenedl yn dylanwadu’n fawr ar ymdrechion i hyrwyddo’r iaith leiafrifol berthnasol.  Fodd bynnag, yn allweddol ar gyfer sicrhau llwyddiant yn y dyfodol ar draws yr achosion fydd gwella’r ffordd rydym yn asesu effeithiau’r mudiadau hyn ar ddefnydd pobl ifanc o’u hiaith ac agweddau tuag at eu hiaith, gan fesur newidiadau yn yr elfennau hyn.  Gellir gweithredu hynny wrth ganolbwyntio mwy wrth werthuso’r gwaith ar arfau a mesuryddion mwy ystyrlon i adnabod ardrawiad ar lefelau o ddefnydd iaith ac ar agweddau.”

 

Canfyddodd y gwaith heriau ychwanegol sy’n wynebu rhai mudiadau sy’n gweithio o fewn cyd-destun deddfwriaethol neu bolisi sy’n llai cefnogol i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol ymysg plant a phobl ifanc.  Mewn rhai amgylchiadau, mae mudiadau yn dibynnu’n llwyr ar gyllid ar gyfer amcanion polisi eraill er mwyn cynnal gweithgareddau hyrwyddo iaith.  Mae’r adroddiad yn argymell bod gweithgareddau hyrwyddo iaith ymysg plant a phobl ifanc yn cael eu cyllido’n ddigonol yn y pedair cenedl.

 

Fframwaith deddfwriaethol yn bwysig

 

Dywedodd yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth: “Rydym wedi adnabod y graddau mae’r cyd-destun yn amrywio ar draws yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.  Mae’r amrywiaethau hyn yn dylanwadu’n glir ar waith y mudiadau sy’n hyrwyddo ieithoedd yn y cenhedloedd hynny.  Lle mae’r fframwaith polisi a deddfwriaethol yn llai ffafriol, mae’r heriau yn cynyddu.  Mewn rhai achosion, gwelir bod mudiadau yn osgoi pwysleisio eu bod yn gweithio drwy gyfrwng iaith leiafrifol er mwyn cynyddu’r posibilrwydd o gael eu cyllido.  Yn ei dro, mae hyn yn golygu bod gwerthuso effeithiau ieithyddol eu gweithgareddau yn fwy cymhleth ac anodd.”

 

Meddai’r Dr Fiona O’Hanlon o Brifysgol Caeredin: “Mae’r argymhellion a wneir gennym yn dangos buddiannau cydweithio adeiladol rhwng rhanddeiliaid yn y maes pwysig hwn.  Rydym yn credu y byddai rhannu profiad ac arfer da ymhellach yn y dyfodol yn fuddiol, rhwng cyllidwyr a mudiadau, er mwyn cryfhau eu cyfraniadau wrth hyrwyddo eu hieithoedd.”