Ymchwil Abertawe yn dangos sut gall diogod (sloths) anadlu wyneb i waered

26/04/2014

Categori: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Ymchwil Abertawe yn dangos sut gall diogod (sloths) anadlu wyneb i waered

Mae diogod, mamaliaid arafa’r byd, sy’n byw yng nghoedwigoedd law America Ladin, yn treulio 90% o’u bywydau wyneb i waered, ond yn ôl ymchwil diweddar, nid yw hynny’n effeithio are eu gallu i anadlu. Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sy’n gweithio gyda Gwarchodfa Diogod Costa Rica wedi darganfod bod organau diogod wedi’u glynu, sy’n eu rhwystro rhag pwyso ar yr ysgyfaint.

 

Bydd yr ymchwil, wedi’i gyhoeddi gan y Gymdeithas Frenhinol,yn helpu gwyddonwyr i ddeall y creaduriaid yma’n well.

 

Mae diogod yn byw yng nghoedwigoedd law de a chanolbarth America. Maent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn hongian o’u coesau ôl er mwyn gallu estyn dail meddal sydd ar yn tyfu ar flaenau canghennau.

 

Maent yn un o'r mamaliaid sy’n cael eu hastudio lleiaf. Maent yn cuddliwio fel rhan o’u strategaeth goroesi, ac o ganlyniad,  nid ydym yn gwybod llawer am sut y maent yn byw yn y gwyllt - hyd yn oed yr wybodaeth fwyaf sylfaenol megis eu diet naturiol a’u dewis o ble i fyw.

 

Mae diogod yn adnabyddus am eu cyfradd metabolig araf. Gallant gymryd hyd at fis i dreulio un ddeilen, a gallant storio hyd at draean o bwysau eu corff mewn wrin ac ysgarthion gan eu bod nhw ond yn ysgarthu tua unwaith yr wythnos. Golyga hyn fod cynnwys eu stumog a’u coluddyn yn drwm dros ben.

 

Y cwestiwn bu’r tîm yn ymchwilio, felly, oedd sut nad oedd yr holl bwysau ychwanegol yn effeithio ar eu hanadlu pan fyddant yn wyneb i waered.

 

Canfu'r tîm yr ateb: mae nifer o adlyniadau unigryw yn yr abdomen yn angori organau fel yr afu, y stumog a'r arennau, ac yn eu hatal rhag pwyso ar y llengig ac atal anadlu.

 

Esboniodd Rebecca Cliffe, un o awduron y papur, sy’n fyfyriwr PhD yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, ac sy’n gweithio yng Ngwarchodfa Diogod Costa Rica:

 

“Gyda chyfradd metabolig araf, a deiet egni isel, mae diogod yn arbenigwyr ar sut i arbed egni. Mae ganddynt gyfradd araf iawn o dreulio bwyd, a gallant storio hyd at draean o bwysau eu corff mewn wrin ac ysgarthion. Am famal sy'n treulio cryn dipyn o amser yn hongian wyneb i waered, byddai’r holl bwysau ar yr ysgyfaint yn gwneud y broses o anadlu’n gostus iawn o ran ynni, os nad yn amhosibl.

 

“Mae diogod wedi llwyddo i ddatrys y broblem drwy angori eu horganau i’w cawell asennau. Mae sawl un o’u horganau wedi’u hymlynu sy’n llwyddo i ddal pwysau eu stumogau a’u coluddyn pan maent yn hongian wyneb i waered. Rydym yn amcangyfrif y gallai’r adlyniadau hyn yn gostwng gwariant ynni’r diogod o tua 7% 13% wrth hongian wyneb i waered.I ddiogyn, mae arbediad egni o 7% - 13% yn arbediad sylweddol.

 

Maent yn cynhyrchu dim ond am ddigon o egni o’u deiet i symud pan a lle bo angen, ac nid oes llawer ar ôl yn y tanc ar ôl hynny. Byddai bron yn amhosib i ddiogyn godi’r pwysau ychwanegol gyda phob anadl oni bai am yr ymlyniadau. Mae presenoldeb yr ymlyniadau yma’n holl bwysig”.

 

Meddai’r Athro Rory Wilson, cyd-awdur y papur, a goruchwyliwr Rebecca Cliffe  yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe:

 

“Mae popeth mae diogon yn gwneud yn gwbl unigryw. Nhw yw’r mamaliaid mwyaf anhygoel ‘dwi wedi dod are u traws, ond eto, prin iawn yw’r hyn rydym yn gwybod amdanynt.

 

Byddem yn ffôl iawn i wylio’r creaduriaid hyn dioddef o ganlyniad i ddatgoedwigo a darnio cynefinoedd  heb i ni gael y syniad lleiaf sut i helpu”.

 

Ceir mwy o wybodaeth a lluniau ar flog Rebecca Cliffe.