Ydych chi'n cytuno gyda chytundeb newydd talu-wrth-wylio y Pro14?

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi methu â sicrhau cytundeb ar gyfer darlledu gemau byw o gystadleuaeth y Pro14 dros y ddwy flynedd nesaf, wrth i'r hawliau fynd i gwmni talu-wrth-wylio
Mae trefnwyr y gystadleuaeth wedi rhoi'r hawliau darlledu i wasanaeth talu-wrth-wylio Premier Sports.
Fodd bynnag, mae trafodaethau yn parhau gyda chytundeb i werthu hawliau darlledu yn y Gymraeg.
Mewn datganiad gan y BBC Cymru: "Rydym yn falch o'n record o ddarlledu o gemau byw y Pro14 ar deledu, radio ac arlein."
Siomedig
"Fe wnaethom gynyddu yn sylweddol ein cynnig ariannol er mwyn ceisio sicrhau'r hawl i ddarlledu, fyddai wedi golygu teledu di-dâl i gannoedd o filoedd o wylwyr yng Nghymru a'r DU."
"Mae cannoedd o filoedd o gefnogwyr wedi mwynhau'r ddarpariaeth rygbi ar y BBC ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn gwybod y byddant yn hynod o siomedig efo'r cyhoeddiad hwn."
Ydych hi’n cytuno i drosglwyddo gemau byw y Pro14 i wwasanaeth talu-wrth-wylio? Mae cyfle i chi bleidleisio yma.