Y Sioe Fawr yn dathlu ei chanfed pen-blwydd
Categori: Amaethyddiaeth, Bwyd, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Wrth i gannoedd o filoedd fynychu’r ganfed Sioe Fawr, mae’r wythnos hyd yma wedi bod yn llawn dop o gystadlaethau, uchafbwyntiau a thrafodaethau wrth i’r byd amaethyddol wynebu’r dyfodol.
Dyma un o’r sioeau mwyaf yn y byd ac mae’n gyfle i arddangos ein cynnyrch safonol i'r byd yn wyneb ansicrwydd Brexit. Cymru yw'r brand ac mae angen i hynny barhau ac mae'r sioe flynyddol yn lwyfan perffaith i hyrwyddo ein bwyd yn fyd-eang.
Y sioe fawr yw uchafbwynt y calendr i lawer bob haf ac fe welwn hi ar ei gorau yn yr heulwen ac ar ei chanfed pen-blwydd.
Mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o’r uchafbwyntiau hyd yma trwy eich trydar. Mwynhewch y darllen.