Y Prins a Dafydd Iwan yn cyfarfod am y tro cyntaf

08/07/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Ar 1 Gorffennaf, 2019, union 50 mlynedd i ddiwrnod y seremoni Arwisgo, fe wnaeth y canwr protest ac ymgyrchydd hawliau sifil, Dafydd Iwan gwrdd â Thywysog Charles yn breifat fel rhan o raglen ddogfen yn edrych yn ôl ar y digwyddiad Brenhinol yng Nghastell Caernarfon ym 1969.

Cafodd y rhaglen Dafydd Iwan: Y Prins a Fi ei darlledu gyntaf neithiwr.

 

Yn dilyn y cyfarfod preifat, dywedodd Dafydd, "Rwy'n falch ein bod wedi cwrdd; mae gen i gryn barch at y dyn hwn, nid fel Tywysog Cymru ac nid fel aelod o'r Teulu Brenhinol ond fel y dyn sy'n angerddol am yr hyn y mae'n ei gredu ynddo. Rwy'n weriniaethwr o hyd, fydda i byth yn frenhinwr, ond mae gan Charles a minnau fwy yn gyffredin nag oeddwn yn ei dybio."

 

Yn y rhaglen, mae Dafydd Iwan yn mynd ar siwrnai bersonol ryfeddol wrth edrych yn ôl ar un o ddigwyddiadau mwyaf dadleuol Cymru yn ystod yr 20fed ganrif; digwyddiad a luniodd ddyfodol Cymru. Daw ei daith i ben gyda'r cyfarfyddiad hanesyddol gyda Thywysog Cymru, a bydd Dafydd Iwan yn rhannu ei argraffiadau o’r cyfarfyddiad yn y rhaglen.

 

Meddai Dafydd, "Y peth pwysicaf yw fy mod i wedi cael cyfle i ddangos nad yw'r ffaith fy mod i’n gwrthwynebu i’r frenhiniaeth yn rheswm i gasáu rhywun; mae'n bwysig ein bod yn gallu byw gyda'n gilydd. Mae'n gyfle i ddangos ei bod hi’n bosibl anghydweld heb fod yna ddrwgdeimlad a’n bod yn gallu cael hyd i’r hyn sy’n gyffredin rhyngom er mwyn creu dyfodol gwell i Gymru a'r byd."

 

Bydd y rhaglen yn llawn atgofion pobl o’r diwrnod mawr, a hefyd yn cynnwys stôr o archif arbennig o’r cyfnod fydd yn ein tywys yn ôl i gyfnod cynhyrfus a chythryblus sydd o fewn cof i nifer o wylwyr S4C. 

 

Mae nifer yn cofio 1969 fel blwyddyn o brotest, paranoia a chasineb yng Nghymru gyda Phlaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn prysur fagu stêm. I ganol hyn oll daeth yr Arwisgiad, digwyddiad wnaeth gorddi’r dyfroedd a rhwygo mudiadau, cymunedau a theuluoedd.

 

Gyda rhyw 500 miliwn yn gwylio’r seremoni fawreddog ar y teledu roedd llygaid y byd ar Gymru ac ar Gaernarfon, sylw oedd wrth fodd y rhan fwyaf o bobl Cymru a’r Deyrnas Unedig ond yn dân ar groen nifer o genedlaetholwyr Cymreig.

 

“Yr ymateb i’r protestio yn erbyn yr Arwisgiad oedd y casineb mwyaf dwi ’di ei weld erioed mewn gwleidyddiaeth. Mi roedd pethau ffiaidd yn cael eu dweud a fy mywyd yn cael ei fygwth yn llythrennol ar bapur ac ar lafar,” dywed Dafydd Iwan, a oedd yn ymgyrchydd ifanc 25 oed adeg yr Arwisgo.

 

“Ac yn anffodus roedd Charles yn cael ei roi i fyny fel symbol o burdeb a pherffeithrwydd a finna’ yn cael fy ngosod fel y diawl a’r gelyn cyhoeddus pennaf felly.”

 

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

Dafydd Iwan oedd un o arwyr y mudiad iaith ar y pryd, ac fel Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gafodd ei dynnu i mewn i’r ddadl ynglŷn â’r Arwisgiad.  Mynegodd ei farn ar y pryd yn llawn ffraethineb yn ei ganeuon protest dychanol, ‘Carlo’ a ‘Croeso Chwedeg-Nain’.

 

“Beth mae’n rhaid i ni gofio ydy bod o’n gyfnod o ddeffro ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ac ail ddiffinio’n perthynas ni fel Cymry gyda Phrydain a gyda Lloegr. Roedd yr Arwisgo yn gyfle gwych i ddweud, ‘Reit, tydan n ddim yn derbyn yr hen drefn yn ddi-gwestiwn. Mae hwn yn gyfle i ni ddweud, ‘tydyn ni ddim yn derbyn twyll Tywysog Cymru a orfodwyd wedi’r goncwest [Normanaidd]. Rydan ni am dorri cwys ein hunain.’”

 

Yn y rhaglen ddadlennol, fe fydd Dafydd yn gofyn a yw rôl y teulu brenhinol ym mywyd Cymru yn dal yn hollti barn.

 

Dros y blynyddoedd, mae Dafydd Iwan wedi cael gwahoddiadau a chyfleoedd i gwrdd â Thywysog Charles ond bob amser wedi gwrthod y cyfle.

 

Rhannu’r un diddordebau

 

Mae Dafydd Iwan yn cydnabod ei fod yn rhannu llawer o ddiddordebau a gwerthoedd gyda'r Tywysog megis cadwraeth a dyfodol ecolegol y blaned, cyfleoedd i bobl ifanc, yn ogystal â thirwedd Cymru. Er ei fod yn pwysleisio nad yw wedi newid ei feddwl ar y frenhiniaeth, mae'n credu'n gryf bod deialog heddychlon yn hollbwysig.

 

“Mae'n rhaid i ni fod yn ddigon aeddfed i ddweud… ie, i ddadlau ac anghytuno, ond hefyd, i symud ymlaen at bethau pwysicach. Dyna'r wers fawr o'r Arwisgiad. Fyddwn i byth yn ymgyrchu yn erbyn rhywbeth fel yr Arwisgiad eto pan mae yna bethau pwysicach i'w gwneud fel adeiladu’r Gymru newydd.”

 

Dyma ymateb trydar i'r cyfarfyddiad hanesyddol: