Y Cyffro yn dathlu'r deugain wrth ryddhau albwm

18/05/2018

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Newyddion

Eleni mae’r band o Gaernarfon, ‘Y Cyffro’ yn dathlu 40 mlynedd trwy ryddhau’r record hir ‘Yn y Gorllewin’, ar label Aran.

Mae’n gyfle felly i holi Derek Hughes (gitâr rhythm) a Dave Roberts (gitâr flaen) ynglŷn â hanes diddorol y grŵp. Yn fuan ar ôl sefydlu yn 1978 fe gafodd y band y cyfle i chwarae gig yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chynhaliwyd yng Nghaerdydd y flwyddyn honno. “Roeddwn ni’n cefnogi’r Trwynau Coch yng nghlwb yr Arms Park” meddau Derek, “ ac roedd hwnnw’n cychwyn perthynas agos lle buom ni’n cefnogi nhw yn aml, yn llefydd fel Corwen ac yn Nhanybont yng Nghaernarfon wrth gwrs”. Fe fagwyd Derek yn nhafarn enwog Yr Alex gan ei fod yn fab i Tommy ac Iris a fu’n cadw’r tafarn am lawer o flynyddoedd. “Dyna lle'r oedd y band yn ymarfer, gan nad oedd tŷ unrhyw un arall yn ddigon mawr, ac roedd tafarndai yn cau ar ddydd Sul pryd hynny. Roedd hwnna’n cyfle i ni ddefnyddio’r lle.” 

 

Cafodd y and eu profiad cyntaf o recordio trwy gyfrannu i EP 12” ar label y Trwynau Coch. Bu John Peel chwarae “Pam does neb yn dawnsio?” ar ei sioe yn 1979. “Mae’n bosib clywed y darllediad yna o hyd” meddai Dave. “Mae rhywun wedi ei osod ar YouTube!” Does dim amheuaeth wrth wrando ar y trac egnïol, cryf yma bod y gân yn un ‘pync’; ffasiwn a steil cerddorol oedd yn ei anterth pryd hynny. Bu nifer o recordiau eraill ar draws y blynyddoedd, i Recordiau Awen ac i Recordiau Sain. Efe ‘Y Cyffro’ felly, yw’r Rolling Stones Cymraeg? “Mwy fatha Spinal Tap” yn ôl Dave. Yr un agwedd sydd wedi para ar draws y blynyddoedd ydy’r cysylltiad cryf efo Caernarfon, lle mae dilyniant y band ar ei gryfa’ o hyd. “Mae’r band mor brysur rŵan ac mae wedi bod erioed” yn ôl Derek, “ac mae llawer o’r llwyddiant yna trwy ‘word of mouth’. Mae ‘na gwahoddiad i ddod yn ôl ym mhobman yr ydym yn chwarae”. 

 

Yn ôl Dave Roberts, “Mae’r band yn chwarae cymysgedd o ganeuon gwreiddiol, a chaneuon Cymraeg eraill. Nid oes gymaint o ganeuon sy’n adnabyddus i bawb yn y Gymraeg, felly rydym yn troi yn aml i’r deunydd traddodiadol, a’i drefnu mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein natur ni.” 

 

“Mae Frances wedi helpu ni datblygu’r ochr gwerinol” medda Derek, “ond mae gwreiddiau'r band i’w chlywed o hyd yn natur y trefniadau.” Felly fe glywir trefniadau o ‘I’r Gad’ sy’n seiliedig ar ‘London’s Calling’ gan ‘The Clash’, a ‘Lleucu Llwyd’ sy’n seiliedig ar ‘Mustang Sally’. Bu perfformiad yn y Market Hall, yng Nghaernarfon yn ddiweddar, para am dair awr. “Unwaith mae’r miwsig a’r cwrw yn cyrraedd rhyw bwynt, maen nhw’n gwrthod gadael i ni stopio!” 

 

Caneuon gwerinol

 

‘Yn y Gorllewin’ yw teitl un o’r caneuon a theitl yr albwm. Mae’n gyfeiriad amlwg i leoliad y band ond hefyd yn gyfeiriad i darddiad nifer o’r caneuon gwerinol ar y casgliad, fel ‘Sosban Fach’. Ydy’r pyncs wedi troi’n ‘folkies’ erbyn hyn? “Wedi troi’n ‘foggies’!” ydy’r ymateb yn syth. Ond mae yna falchder hefyd i’w glywed ar y record newydd. Testun y gân ‘Gwna be’ ti’n ‘wneud’ yw sut yr ydym yn mesur pob dim yn erbyn yr eitemau eiconig, safonol o’r gorffennol. Boed hynny’n ceir neu’n cerddoriaeth. Bydd cyfle gwych i’r band ystyried ei hanes hir, wrth lansio’r albwm newydd er mwyn dathlu 40 mlynedd o gerddoriaeth ‘Y Cyffro’.