Urdd yn ystyried newidiadau
Categori: Addysg, Barn, Celfyddydau, Chwaraeon, Cystadlaethau, Iaith

Mae gweithgor gafodd ei sefydlu gan yr Urdd i edrych ar syniadau i ddatblygu'r Eisteddfod yn dweud y dylid ystyried symud amseroedd cystadlu a'u cynnal yn hwyrach yn y dydd.
Ymhlith argymhellion eraill mae sefydlu Pafiliwn Technoleg a hefyd gwneud mwy i "hyrwyddo'r cyfleoedd mae technoleg yn ei gynnig trwy'r Gymraeg i fywydau pobl ifanc."
Mae'r gweithgor, o dan gadeiryddiaeth y barnwr Nic Parry, yn cynnig 12 o argymhellion fydd yn cael eu hystyried gan Fwrdd yr Eisteddfod yn eu cyfarfod nesa' yn Aberystwyth yn Ionawr 2014.
"Wrth gyflwyno argymhellion ac argraffiadau gwaith ymchwil manwl gan dîm y Gweithgor, dwi'n awyddus i bwysleisio mai dechrau'r daith yw hon i Eisteddfod yr Urdd," meddai Mr Parry.
"Mae'r adroddiad yn cynnig y cyfle i ennyn a sbarduno trafodaeth bellach gan bawb sydd â gwir ddiddordeb yn y digwyddiad cenedlaethol pwysig hwn."
Bu'r gweithgor yn ystyried pedair prif thema sef:
- Cystadlu a pherfformio
- Technoleg
- Ymestyn y dydd
- PartneriaethauO ran cystadlu roedd y gweithgor yn credu bod hyn yn allweddol i'r ŵyl.
Ond maen nhw hefyd yn ymwybodol bod angen denu'r miloedd sydd wedi cystadlu yn y cylch a'r rhanbarth ond heb gyrraedd y genedlaethol i fynychu'r ŵyl.
"Rydym yn cynnig ystyried cyflwyno cynigion arbennig iddynt, mynediad yn rhatach efallai, i bawb sy'n mynychu'r Eisteddfodau Cylch."
Argymhelliad arall yn yr Adroddiad yw bod Bwrdd yr Urdd yn ystyried patrwm diwrnod cystadlu.
"Mae rhai plant a rhieni ar y maes o 7 o'r gloch y bore a rhai yn teithio i'r maes cyn hynny," meddai Nic Parry.
"Mae bwrlwm ar y maes yn fuan iawn ond dyw'r rhan fwyaf o'r stondinau ddim ar agor tan 9 y bore.
" Mae'r Gweithgor yn argymell bod ystyriaeth yn cael ei roi i ddechrau rhagbrofion yn hwyrach, dechrau cystadlu'r llwyfan yn hwyrach a gorffen sesiwn y prynhawn yn y pafiliwn yn hwyrach. Argymhellir hefyd bod stondinwyr yn adlewyrchu'r patrwm cystadlu."
"Ein nôd fel Gweithgor yw cyflwyno'r argymhellion i Fwrdd yr Eisteddfod fel sail i drafodaeth ehangach."
Gwaith ymchwil
Cafodd y gweithgor ei sefydlu ym mis Mehefin 2012 ar ôl Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eryri.
Ymysg y bobl sydd wedi bwydo i'r gwaith ymchwil y mae pobl ifanc, cystadleuwyr, rhieni, hyfforddwyr, athrawon, stondinwyr, noddwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae gwaith ymchwil dros y 15 mlynedd ddiwethaf gan yr Urdd a chwmni annibynnol hefyd wedi ei ddefnyddio fel cefndir i'r Gweithgor.
" Mae'r Gweithgor yn argymell bod ystyriaeth yn cael ei roi i ddechrau rhagbrofion yn hwyrach, dechrau cystadlu'r llwyfan yn hwyrach a gorffen sesiwn y prynhawn yn y pafiliwn yn hwyrach. ”
Nic Parry Cadeirydd y Gweithgor
Aelodau'r gweithgor yw: Hywyn Williams, Cyfarwyddwr Addysg Sir Ddinbych; Gari Wyn, gŵr busnes o'r sector breifat; Huw Foulkes, hyfforddwr ac arweinydd corawl; Stifyn Parry, perfformiwr a threfnydd digwyddiadau; Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru; Rhiannon Lewis, Ymddiriedolwr yr Urdd a Dyfrig Davies, Cynrychiolydd o Fwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net