Uchafbwyntiau a phynciau llosg y Brifwyl hyd yma
Categori: Celfyddydau, Chwaraeon, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Mae Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni bellach bron a chyrraedd hanner ffordd gyda sawl pwnc llosg yn hawlio’r sylw hyd yma. Mi rydym am edrych yn ôl ar rai o'r uchafbwyntiau a thestunau trafod y Brifwyl.
Dros y penwythnos, fe fu’r Orsedd dan y lach wrth i’r canwr adnabyddus Arfon Wyn gyhoeddi ei fod yn dychwelyd anrhydedd y Wisg Wen am ei fod wedi siomi gyda’r Orsedd am beidio anrhydeddu tim pêl-droed Cymru. Fe gafwyd erthygl yn y Western Mail yn beirniadu’r Eisteddfod am beidio anrhydeddu Cymry di-Gymraeg.
Yr oedd Aelod Cynulliad UKIP, Neil Hamilton ynghanol ffrae wrth iddo dorri’r rheol iaith ar y Maes, mewn cyfarfod o bwyllgor y Cynulliad. Dywedodd nad oedd yn ymwybodol o’r rheol iaith. Gan gadw at wleidyddiaeth, fe lansiodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones gynigion i gynyddu'r nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Mae'r tywydd wedi bod yn gyfnewidiol yn Y Fenni gyda chawodydd ac ysbeidiau heulog tra fod y niferoedd bob dydd wedi bod yn is na'r llynedd.
Mae’r cystadlaethau hyd yma wedi ennill teilyngdod wrth i Elinor Gwynn gipio’r Goron gyda Guto Dafydd yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen.
Mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o uchafbwyntiau’r dyddiau cyntaf trwy’r argraffiadau ar Trydar: