Ar drothwy uchafbwynt y calendr amaethyddol

20/07/2018

Categori: Amaethyddiaeth, Bwyd, Hamdden, Newyddion

Fe fydd uchafbwynt y calendr amaethyddol yn dychwelyd yr wythnos nesaf wrth i S4C ddarlledu yn ddyddiol o'r Sioe Fawr yn Llanelwedd unwaith yn rhagor gyda enwau cyfarwydd yn dilyn yr hynt a'r helynt o Faes y Sioe.

Profiad newydd sy'n wynebu'r cyflwynydd Aeron Pughe yn y Sioe Frenhinol eleni wrth iddo fentro o'r sied gneifio i grwydro'r maes. Yn rhan o griw sylwebu Y Sioe 2018 ar S4C, bydd Aeron yn canolbwyntio ar yr ardaloedd ffwr a phlu, y geifr a'r moch.

 

"Dwi'm yn siŵr os mai promotion ydi o neu be'," meddai Aeron. "Y cneifio dwi wedi bod yn sylwebu arno ers tua phum mlynedd, ond, o'r diwedd, dwi wedi ennill yr hawl i gael mynd allan ar gamera byw.

 

"Dydw i ddim wedi gwneud gymaint â'r ardaloedd hyn yn y gorffennol. Mae 'na ddigon o geiliogod ym Machynlleth, ac ambell i fochyn a hwch, ond dim fath â'r rhai yn y Sioe!"

 

Bydd Aeron yn manteisio ar y cyfle i ymweld ag amryw o fannau gwahanol ar faes y Sioe eleni gan gynnwys yr ardal Goedwigaeth, y Peiriannau a chornel gyfarwydd iawn iddo, y Ffermwyr Ifanc.

 

"Ro'n i'n rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi pan oeddwn i'n ddigon ifanc i fod yn aelod, ac wedi helpu ar ôl hynny," meddai. "Y rheswm dwi'n cyflwyno heddiw ydi oherwydd y Ffermwyr Ifanc. Mae'n neis iawn 'mod i'n gallu mynd yn ôl yno i hyrwyddo a chyfweld â phobl o'r mudiad."

 

 

Mi fydd Aeron yn ymuno â sawl wyneb cyfarwydd ar dîm sylwebu'r Sioe eleni, gyda Nia Roberts yn angori'r cyfan bob diwrnod o 9.00 y bore. Yr enwog Dai Jones, Llanilar fydd yn cadw llygad ar y gwartheg, Meinir Howells ar y defaid ac yn sylwebu o’r sied gneifio fydd Alun Elidyr.

 

 

Ffrwd fyw

 

Heledd Cynwal a David Oliver fydd yn sylwebu o'r Prif Gylch, gyda ffrwd fyw ar gael ar-lein ar gyfer holl gystadlaethau'r Cylch.

 

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer holl raglenni'r dydd ac isdeitlau Saesneg ar y rhaglenni uchafbwyntiau gyda'r nos wedi'u cyflwyno gan Ifan Jones Evans.

 

Bydd Ifan hefyd yn mwynhau cynnwrf y maes ar y nos Sul cyn y Sioe mewn rhaglen ragflas fydd yn edrych ymlaen at yr wythnos ac yn darlledu o Foliant y Maes.