Tyrfaoedd yn tyrru i Tafwyl
Categori: Amgylchedd, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Llenyddiaeth, Newyddion

Bryn Fôn mewn siwt binc oedd uchafbwynt Gwyl Tafwyl eleni ac fe roedd yr wyl yng Nghastell Caerdydd unwaith eto heb siomi dim, gyda’r tyrfaoedd yn mwynhau pob math o weithgareddau yn yr heulwen braf.
Yr oedd yna bopeth i’w gael yn Tafwyl eleni, o gerddoriaeth wych i’r bwyd blasus a’r cwrw da. Yr oedd yna rywbeth i blesio pawb o’r teulu, heb son am gelf i blesio’r llygad.
Dyma wyl fwyaf Cymru bellach y tu allan i’r 'steddfod ac mae'n mynd o nerth i nerth. Y mae'n gyfle i gymdeithas Gymraeg y brifddinas a thu hwnt ymdrybaeddu mewn diwylliant cyfoes a hynny mewn awyrgylch drawiadol.
Mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o uchafbwyntiau'r Ŵyl ar Trydar. Mwynhewch y negeseuon a'r lluniau cofiadwy.