Traean o bobl Lloegr o blaid annibyniaeth i Loegr, yn ôl arolwg gan Yes Cymru

30/06/2020

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae traean o bobl yn Lloegr wedi dweud nad ydynt yn dymuno i’r Deyrnas Gyfunol barhau tra bont yn ffafrio annibyniaeth i Loegr. Dyma ganfyddiadau arolwg a gomisiyniwyd gan ymgyrch Yes Cymru.

Heb gynnwys y rhai nad oedd yn gwybod neu wrthododd ymateb, mae 35% o bobl yn Lloegr bellach yn ffafrio annibyniaeth i Loegr yn ôl arolwg barn. 

 

Dangosodd arolwg gan YouGov ar ran YesCymru bod Ceidwadwyr yn rhanedig ar y mater, roedd 49% o blaid annibyniaeth a 51% yn erbyn.

 

Dywedodd y Dr Dafydd Trystan, gwyddonydd gwleidyddol: “Mae tystiolaeth yr arolwg barn hwn yn dangos y byddai lleiafrif sylweddol o bleidleiswyr yn Lloegr yn pleidleisio dros ddod â’r Deyrnas Gyfunol i ben. 
“Mae’r darlun yn fwy diddorol byth o edrych ar bleidleiswyr yr amrywiol bleidiau. Mae pleidleiswyr Ceidwadol ac Unoliaethol yn rhanedig ar ddyfodol y Deyrnas Gyfunol, mae bron i hanner am weld Lloegr yn mynd ei ffordd ei hun.

 

“Mae’r canlyniadau yma yn cydfynd gyda'r diffyg pwysigrwydd sydd i gynnal yr Undeb ymysg pleidleiswyr Ceidwadol mewn arolygon barn am Brexit a’i effaith ar y berthynas rhwng Lloegr, Yr Alban a gogledd Iwerddon”
Tra bod cefnogaeth yn Llundain yn gymharol isel, ar 25%, roedd y niferoedd ynng ngogledd a chanolbarth Lloegr yn uwch, ar 38%.

 

Pobl dros 65 oed sydd o blaid

 

Y rhai dros 65 oed yw'r mwyaf tebygol o bleidleisio dros annibyniaeth i Loegr gyda 48% o blaid.
Dywedodd Siôn Jobbins, cadeirydd YesCymru, "Mae’r arolwg yma’n dangos dau beth diddorol a phwysig.
“Yn gyntaf, bod lleiafrif arwyddocaol o bobl Lloegr, yn enwedig y tu allan i Lundain, o blaid annibyniaeth i Loegr.
“Yn ail, mae’n dangos mai ymysg y rhai am y pegwn â’r rhai sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru a’r Alban mae annibyniaeth i Loegr. Ymysg pobl hŷn a’r rhai ar y dde mae cefnogaeth i annibyniaeth i Loegr, tra bod cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru yn bennaf ymysg pobl ifanc a’r rhai ar y dde.

 

“Problem Cymru, er gwaetha bod gennym senedd â rhywfaint o rym, yw ein bod yn dal i fod dan reolaeth plaid wleidyddol ac ideoleg sydd yn gwbl groes i hanfod pobl Cymru. Mae annibyniaeth i Loegr yn eliffant yn ystafell fyw gwleidyddiaeth Prydain. Mae annibyniaeth i Gymru yn ddihangfa i Gymru."