Tîm pêl-droed Cymru yn dychwelyd i'r Cae Ras yn Wrecsam

18/12/2018

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Bydd tîm pêl-droed Cymru yn dychwelyd i’r Cae Ras yn Wrecsam am y tro cyntaf mewn deng mlynedd ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago ar yr 20fed o Fawrth 2019.

Mae Cymru wedi wynebu Trinidad a Tobago unwaith o’r blaen ym mis Mai 2006. Roedd y gêm honno’n un cyfeillgar, gyda Robert Earnshaw yn sgorio ddwywaith mewn buddugoliaeth o 2-1 yn Arena UPC, Graz, Awstria.

 

Dyma fydd gêm gyntaf 2019 i garfan Ryan Giggs a bydd yn rhan o’r paratoadau tuag at eu gêm ragbrofol gyntaf yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd 4 diwrnod yn ddiweddarach.

 

Cefnogaeth anhygoel 

 

Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm cenedlaethol Cymru yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r Cae Ras: “Dwi’n falch iawn ein bod yn gallu chwarae yn y Cae Ras am y tro cyntaf mewn deng mlynedd. Roedd y gefnogaeth yn anhygoel yn ystod y sesiwn hyfforddi agored yno ym mis Mai, gan danio ein dyhead i chwarae gêm lawn eto yn y cae hanesyddol.

 

“Bydd Trinidad a Tobago yn brawf diddorol i ni ac yn gyfle grêt i baratoi cyn ein hymgyrch ragbrofol EWRO 2020.”