Teyrngedau i Gerallt Lloyd Owen

16/07/2014

Categori: Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Fe fu farw Gerallt Lloyd Owen ddoe yn 69 oed. Fe gadarnhaodd ei deulu'r newyddion, gan ddweud ei fod wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn salwch byr. Un o feirdd mwya’r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif.

 

Yn un o feirdd enwocaf Cymru roedd Gerallt Lloyd Owen yn un o’r cynganeddwyr gorau erioed, yn ysbrydoli'r genedl gyda’i gerddi gwladgarol.

 

Fe’i ganwyd yn Y Sarnau, Sir Feirionnydd yn 1944 a gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf, Ugain Oed a’i Ganiadau yn ifanc iawn. Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1975 a 1983.

 

Ers y newyddion trist mae nifer o bobl wedi rhoi teyrnged i’r bardd. Darllenwch ymlaen i ddarllen rhai o’r teyrngedau ar Trydar.