Targed cyntaf i hyfforddi athrawon Cymraeg yn ‘gam ymlaen’, yn ôl mudiad iaith

03/02/2020

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae targedau wedi eu gosod ar golegau sy’n hyfforddi athrawon i recriwtio siaradwyr Cymraeg am y tro cyntaf erioed, yn ôl gohebiaeth sydd wedi dod i law ymgyrchwyr iaith.

Mewn gohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg a darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon, meddai adran addysg Llywodraeth Cymru: “Mae'n ofyniad gan Lywodraeth Cymru y dylai Partneriaethau gweithio tuag at sicrhau y dylai 30% o recriwtio i bob rhaglen Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon fod yn athrawon sy’n dysgu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad yw adroddiadau monitro yn tystiolaethu bod cynnydd yn nifer y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yna caiff Partneriaethau eu gofyn i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o’u gweithredoedd i gyflawni hyn.”

 

Ers pedair blynedd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am newidiadau er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 gan gynnwys gosod targedau statudol ar golegau hyfforddi athrawon er mwyn cynyddu canrannau'r bobol fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Cam ymlaen

 

Dywedodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:  “Mae hyn yn sicr yn gam ymlaen ac yn newyddion calonogol; mae Kirsty Williams yn haeddu clod am gymryd y penderfyniad hwn. Ers blynyddoedd bellach, rydyn ni wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i wella pethau o ran cynllunio’r gweithlu, dyma’r arwydd cyntaf eu bod yn dechrau gweithredu o ddifrif. Wedi’r cwbl, mae’r newidiadau hyn yn hanfodol er mwyn i’r Llywodraeth gyrraedd targedau ei strategaeth iaith ei hun. 

 

“Wrth gwrs, bydd angen mynd yn bellach na’r targedau cychwynnol hyn, gan gynnwys gwneud y targedau hyn yn statudol a’u cynyddu dros amser. Mae angen strategaeth benodol ar gyfer cynllunio’r gweithlu addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd targedau’r Llywodraeth. Yn y strategaeth honno, mae angen targedau statudol sy’n gyfrach na’r hyn sydd yn y llythyr yma ynghyd â mesurau megis  cyflwyno rhaglen ddwys o hyfforddiant mewn swydd gwahaniaethol yn y gweithle ac i ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith. 

 

Ychwanegodd: “Dylai’r targedau newydd hyn hefyd yn gosod cynsail i gynllunio’r gweithlu mewn sectorau allweddol eraill fel y gwasanaeth iechyd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at Weinidogion eraill yn y Llywodraeth yn dysgu o benderfyniad Kirsty Williams.” 

 

Deddf Addysg Gymraeg

 

“Er ein bod yn gwerthfawrogi ymdrechion swyddogion i wneud eu gorau glas o fewn cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, mae’n gwbl amlwg bellach bod angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn cyflawni gweledigaeth miliwn o siaradwyr y Llywodraeth. Wedi’r cwbl, dyna oedd yr argymhelliad clir gan banel o arbenigwyr y Llywodraeth yn gynharach eleni. Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth wrando ar yr arbenigwyr.”