Sgript Richard Burton prin mewn ocsiwn ar gyfer apêl Tarian Cymru

24/06/2020

Categori: Celfyddydau, Iechyd, Newyddion

Mae sgript prin oedd yn eiddo i'r eicon actio Richard Burton mewn ocsiwn ar-lein i godi arian ar gyfer apêl PPE Tarian Cymru.

19 oed oedd Richard Burton pan gafodd ei gastio yn fersiwn radio 1945 o'r ddrama The Corn is Green, a gynhyrchwyd gan ei fentor tymor hir, ei gydweithredwr a'i ffrind Philip Burton.

 

Gwaith actio cynnar iawn yn ei yrfa oedd hwn i Richard Burton, nad oedd yn actor proffesiynol eto, heb sôn am yr enwogrwydd byd-eang a ddaeth yn sgil ei lwyddiannau yn Hollywood a'i berthynas adnabyddus gyda'i gyd-actor Elizabeth Taylor.
Mae'r sgript wedi'i deipio ac mae'n cynnwys nifer o nodiadau mewn pensil wedi eu hychwnaegu, mae'n debyg, gan Richard Burton ei hun.

 

Fe'i darganfuwyd gan yr awdur o Gymru Richard King wrth glirio cartref ei rieni yng Nghasnewydd. Dywed yr awdur 'Rwy'n ymwybodol o berthynas, hen hen fodryb o bosibl, a fu'n gweithio yn y BBC yn ystod y rhyfel ac rwy'n tybio mai trwyddi hi y daeth y sgript i feddiant fy nheulu. Roedd fy rhieni hefyd yn weithgar iawn ym maes drama amatur ddiwedd y 1950au mewn lleoedd fel Oxford House yn Risca, felly efallai mai cymdeithas ddrama leol a oedd wedi defnyddio sgript yr addasiad radio oedd y ffynhonnell'.

 

Darlledwyd The Corn Is Green yn wreiddiol ym mis Ionawr 1945 ar Wasanaeth Cartref y BBC. Roedd dramâu radio o'r fath yn ffynhonnell celf ac adloniant hanfodol i gyhoedd oedd yn ymdopi â thrallod hir yr Ail Ryfel Byd. Gwyddys bod Richard Burton ei hun wedi gweithio i'r pwyllgor Cydweithredol lleol adeg y rhyfel, gan ddosbarthu cyflenwadau yn gyfnewid am gwponau ym maestrefi Port Talbot.

 

Dosbarthu offer amddiffynnol

 

Mae Tarian Cymru yn dosbarthu offer amddiffynnol personol (PPE) i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru. Dywed Carl Morris, cyd-drefnydd yr apêl, "Roedden ni yn yr apêl wrth ein boddau o gael y sgript anhygoel a hynod ddiddorol hon, sydd o bwysigrwydd aruthrol i hanes y celfyddydau dramatig, ac wrth gwrs ffans Richard Burton. Mae'r ocsiwn hon yn gyffrous iawn - mae'n dechrau am 99c fel y gall bron unrhyw un gynnig. Pwy fydd yn dod yn berchennog lwcus y sgript anarferol hon? Mae'r holl gefnogaeth i'r apêl wedi bod yn ysgubol, yn ei holl ffurfiau - o gerddorion, i sefydliadau, i heriau chwaraeon, i roddion gan gefnogwyr unigol, ac arwerthiannau fel hyn. Mae pob ceiniog a godwn trwy hyn a dulliau eraill yn mynd tuag at brynu a dosbarthu PPE ar gyfer ein gweithwyr iechyd a gofal ledled Cymru."