S4C yn cyhoeddi gemau byw Cwpan y Byd

20/08/2015

Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Gareth Roberts yn cyflwyno

Bydd yna wledd yn disgwyl cefnogwyr rygbi Cymru yn ystod Cwpan y Byd ym mis Medi wrth i S4C gyhoeddi eu bod yn dangos naw gêm fyw yn ystod y twrnameint gan gynnwys holl gemau Cymru yn y gystadleuaeth.

 

Mae gan S4C yr hawliau darlledu i bob un o gemau grŵp y crysau cochion yn ogystal â’r gem agoriadol rhwng Lloegr a Fiji, un gêm o rownd yr wyth olaf, un gêm o’r rownd gynderfynol, y gêm efydd a’r rownd derfynol.

 

Fe fydd Gareth Roberts yn cyflwyno’r gemau byw gydag Wyn Gruffydd a chyn-gapten Cymru, Gwyn Jones fel sylwebwyr ac Owain Gwynedd yn gohebu, gyda phob gêm hefyd ar gael i’w gwylio ar Clic.

 

Bydd sioe arbennig wedi’i chyflwyno gan wyneb cyfarwydd Dot Davies hefyd yn cael ei darlledu bob nos Fercher yn dadansoddi a thrafod y gystadleuaeth, gyda gwestai arbennig o’r byd rygbi.

 

Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau ar nos Wener, Medi 18, gyda darllediad o’r seremoni a’r gêm agoriadol rhwng Lloegr a Ffiji yn Twickenham.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru