Rygbi saith bob ochr yn fyw ar S4C

14/08/2015

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Wrth i S4C a’r genedl baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015, bydd y sianel yn cynhesu wrth ddarlledu pencampwriaeth rygbi saith bob ochr yn fyw.

 

Bydd y cymal Cymreig o gyfres rygbi saith bob ochr Singha yn fyw o Gaerdydd ddydd Sadwrn 15 Awst, gyda phedwar rhanbarth Cymru yn brwydro yn erbyn ei gilydd am un prynhawn.

 

Bydd Gareth Roberts a'r tîm yn cyflwyno’r holl gemau dros dair awr yn dechrau am 3 yn y prynhawn - wrth i'r Gweilch, y Scarlets, y Gleision a'r Dreigiau gystadlu yn erbyn ei gilydd ar Barc yr Arfau.

 

Bydd dau o'r pedwar rhanbarth yna’n mynd ymlaen i'r rownd derfynol yn y Twickenham Stoop ar 28 Awst lle fyddan nhw’n wynebu’r goreuon o dimau Lloegr . Bydd rhaglen uchafbwyntiau o’r diwrnod terfynol ar S4C ar 30 Awst.

 

Y llynedd, llwyddodd y Gleision a'r Dreigiau i fynd i’r rownd derfynol a welodd Caerloyw yn cael eu coroni'n bencampwyr.

 

Meddai Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C, “Roedd y bencampwriaeth saith bob ochr yn ddigwyddiad cyffrous iawn y llynedd ac rydym yn falch iawn i allu darlledu’r gystadleuaeth unwaith eto. Mae hwn yn gyfle i weld rhai o’n sêr rhanbarthol yn disgleirio.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru