Robert Page yn ymuno â thim hyfforddi Ryan Giggs

20/08/2019

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Bydd y rheolwr addawol a chyn chwaraewr Cymru, Robert Page sy’n rheoli tîm dan 21 Cymru ar hyn o bryd yn ymuno â staff hyfforddi Ryan Giggs ar gyfer gweddill ymgyrch ragbrofol Ewro 2020.

Bydd Page yn ymuno â Giggs a’i reolwr cynorthwyol, Albert Stuivenberg, fel hyfforddwr ar gyfer y tîm cenedlaethol, gan ddechrau gyda’r gemau yn erbyn Aserbaijan a Belarws fis nesaf.

 

Daw hyn yn dilyn ymadawiad Osian Roberts fel is-hyfforddwr Cymru fis diwethaf i gymryd swydd gyda chymdeithas bêl-droed Morocco.

 

Dyrchafiad

 

Mae Paul Bodin wedi cael dyrchafiad i’r rheolwr dan 21 wrth i’r garfan ddechrau eu hymgyrch ragbrofol EWRO Dan-21 fis nesaf. Mae’r tîm dan 21 yn wynebu Gwlad Belg a’r Almaen mewn dwy gêm gartref yn y Cae Ras ar y 6ed a’r 10fed o Fedi. Gellir prynu tocynnau ar gyfer y ddwy gêm yma.

 

Bydd Robert Edwards, rheolwr presennol y garfan dan 17 yn cael ei ddyrchafu i’r rheolwr dan 19, gyda Richard Williams, rheolwr presennol y garfan dan 15 yn camu i’r tîm dan 17.