Rhyddhau sengl newydd Yr Eira

21/04/2017

Categori: Cerddoriaeth, Newyddion

Fe fydd sengl newydd y band o Fangor Yr Eira, ‘Dros y Bont’, yn cael ei rhyddhau ar 28ain o Ebrill.

Yn debyg i’r themâu a welir yng nghân ddiweddara Yr Eira; ‘Pan Na Fydda i yn Llon’, cawn yma deyrnged i’r llefydd hynny sy’n magu cariad a chrafangau mewn person, ac sy’n anodd iawn i’w anghofio.

 

Yn dilyn rhyddhau eu sengl newydd ‘Suddo’ y llynedd, mae’r band o Fangor yn brysur ddod yn un o fandiau amlycaf Cymru. Mae’r prif leisydd Lewys Wyn yn feistr ar gyfansoddi cân fachog ac egniol sy’n cael ei chwarae’n aml ar Radio Cymru a Radio 1. 

 

Synau newydd

 

Mae sengl newydd yn dangos Yr Eira’n arbrofi gyda synau newydd. Er bod y sŵn band gitâr indi yn dal i’w glywed, mae’n dangos cam i gyfeiriad mwy pop-aidd.

 

Bydd Yr Eira yn rhyddhau albwm ym mis Gorffennaf, ac mae’r cyfan oll wedi ei recordio a’i gynhyrchu gan Steffan Pringle sydd wedi gweithio gyda bandiau megis Houdini Dax, Adwaith ac Estrons.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru