Rhybudd i sefydliadau gan Gomisiynydd y Gymraeg

02/06/2015

Categori: Iaith, Newyddion

Mae Meri Huws Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi blaenoriaethau ei swyddfa ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, gyda rhybudd i sefydliadau eu bod yn barod i ddefnyddio'r gyfraith yn llawn er mwyn hwyluso defnydd o’r Gymraeg. 

 

Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bodoli ers tair blynedd bellach gyda’r cyfnod hwnnw yn ymhél i raddau helaeth gyda gosod sylfeini ar gyfer gweithredu deddfwriaeth newydd. Roedd yn gyfnod ‘o brofi a herio swyddogaethau a phwerau newydd’ yn ol y Comisynydd. 

 

Mae’r rhagair gan Meri Huws yn egluro pa sectorau y byddant yn awyddus i gydweithio a hynny’n cynnwys y banciau sydd wedi bod dan feirniadaeth yn ddiweddar gan y Comisiynydd am ddiffyg darpariaeth Gymraeg,  fel yr eglurodd, "Fy nod yw Cymru lle gall unrhyw un fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. I gyrraedd y nod, byddaf yn plethu’r gwaith o weithredu a rheoleiddio’r gyfraith â hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Golyga hyn gydweithio â mudiadau trydydd sector ac elusennau, busnesau megis siopau a banciau a rhai ym meysydd twristiaeth a threftadaeth, y byd chwaraeon a hamdden, a’r cyrff sy’n cynrychioli’r holl sectorau hyn, i’w cefnogi i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg."

 

Rhybudd

 

Mae Meri Huws yn rhoi rhybudd pendant i sefydliadau y byddai’n barod i ddefnyddio’r gyfraith yn llawn petaent yn methu yn eu gofynion i ddarparu gwasanaeth Cymraeg, meddai, "Disgwyliaf i sefydliadau gydymffurfio â’r dyletswyddau cyfreithiol a osodir arnynt. Lle nad yw hynny’n digwydd, byddaf yn cymryd camau priodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r dyletswyddau a, thrwy hynny, yn sicrhau bod hawliau defnyddwyr y Gymraeg yn cael eu gwarchod. Er mwyn cyflawni hyn, byddaf yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau rheoleiddio."

 

Ychwanegodd fod angen cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus, "Drwy weithredu’r blaenoriaethau strategol yn y ddogfen hon, fy amcan yw sicrhau bod yr holl newidiadau i dirlun bywyd cyhoeddus Cymru’n arwain at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Rwyf am weld Cymru lle mae’r Gymraeg yn rhan ddi-gwestiwn a naturiol o fywyd pob dydd, yn y cymunedau Cymraeg ac yn y cymunedau dwyieithog ac amlieithog, ym mhob cwr o’r wlad."