Rhieni Pontypridd yn protestio dros addysg Gymraeg lleol

22/03/2019

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Ddoe cynhaliodd rhieni a chefnogwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton brotest y tu allan i adeilad Cyngor Rhondda Cynon Taf yng Nghlydach wrth i aelodau’r Cabinet drafod cynigion i adrefnu ysgolion yn ardal Pontypridd.

Y cynnig presennol yw cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn ac adeiladu ysgol newydd sbon ar safle presennol Heol-y-Celyn.

 

Mae'r ymgyrchwyr yn pryderu y gall hyn arwain at ddirywiad sylweddol yr iaith Gymraeg yng nghymunedau gogledd Pontypridd.

 

Meddai Angela Gerrard - rhiant ac aelod o'r grŵp ymgyrchu Rhieni yn Brwydro dros Addysg Gymraeg Lleol, a fydd yn y brotest yfory, "Gyda’r cynlluniau arfaethedig yn eu ffurf ffurfiannol, rydym yn annog y Cabinet a’r Cyngor i ystyried o ddifrif sgil-effeithiau y cynnig yma ac i ystyried opsiynau eraill. Mae adeilad newydd i Bont Siôn Norton yn hanfodol, gan nad yw yn ei ffurf bresennol yn addas fel Ysgol 21ain Ganrif. Ond mae’r cynnig i symud yr ysgol allan o ogledd Pontypridd - a chreu siwrnai o hyd at chwe milltir i ardaloedd Ynysybwl, Glyncoch a Choedycwm - ymhell o fod yn ddelfrydol ac yn golygu taith hir ar fws. 

 

"Mae'n bwysig iawn bod plant yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn y gymuned lle maen nhw'n byw. Mae teuluoedd sydd heb fynediad i geir wedi mynegi pryderon ynghylch sut y byddant yn cyrraedd clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol neu'n cyrraedd eu plant mewn argyfwng. Mae rhai rhieni yn dweud yn agored eu bod yn pryderu cymaint am y sefyllfa, fel na fyddant yn gallu dewis yr opsiwn cyfrwng Cymraeg am resymau ymarferol. Bydd hyn creu rhwystrau ychwanegol i rieni wrth wneud y penderfyniad i ddewis addysg Gymraeg ai peidio."

 

Mae ceisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi cadarnhau nad yw Cyngor RhCT wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i safleoedd posib eraill. Mae'r Ymgyrch yn pwyso ar y Cyngor i ystyried safle Ysgol Tŷ Gwyn fel lleoliad ar gyfer Ysgol Gyfrwng Gymraeg newydd ar gyfer disgyblion cymunedau Ynysybwl, Coed y Cwm a Glyncoch. Maent hefyd yn awgrymu y dylai safle presennol YGG Pont Sion Norton gael ei addasu i gyrraedd safon Ysgol 21 Ganrif, gan gynnwys adeilad newydd fel y gwaith a ymgymerwyd yn Ysgol Trerobart. Byddai hynny'n golygu cadw Ysgol Pont Siôn Norton fel ysgol Gymraeg ar ei newydd wedd ar gyfer disgyblion o Gilfynydd, y Comin a Trallwn. Dylai’r cynlluniau ar gyfer Heol y Celyn fynd rhagddo ac fe gaiff ei gofleidio gan y gymuned leol.

 

Ystyriaeth ddwys

 

Ychwanegodd Angela Gerrard, "Rydym yn teimlo na ellir caniatáu i’r cynlluniau presennol fynd yn eu blaenau heb i'r Cyngor ddangos yn glir eu bod wedi rhoi ystyriaeth ddwys ac ystyrlon i safleoedd eraill a fyddai’n caniatáu i blant dderbyn addysg Gymraeg o fewn eu cymunedau lleol, fel sy'n cael ei amlinellu yn Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru (2010)."

 

Mae Una Hilder, yn wreiddiol o Hampshire ond symudodd i Gilfynydd 8 mlynedd yn ôl ac mae bellach yn byw yno gyda’i gŵr a’i merch sydd yn mynychu Dosbarth Meithrin Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton, hefyd yn bryderus iawn am oblygiadau'r cynnig ar ei theulu hithau.

 

“Does dim siaradwyr Cymraeg yn y teulu. Roedd yn benderfyniad anodd dewis addysg cyfrwng Cymraeg ond fe ddewison ni hynny oherwydd ein bod ni eisiau i'n merch fod yn ddwyiethog. A hefyd er mwyn iddi gael dealltwriaeth gwell o'r wlad lle mae hi wedi ei geni.

 

“Fe ddechreuais i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu ei chefnogi hi gyda’i haddysg ac rydyn ni'n defnyddio’r iaith fwyfwy yn y cartref. Ond yn anffodus gyda'r newidiadau sy'n cael eu hawgrymu i'r ysgolion lleol, rydyn ni nawr yn gorfod cysidro ei thynnu hi allan o addysg Gymraeg a'i rhoi hi mewn ysgol Saesneg.

 

Mynd i’r ysgol leol yn bwysig

 

“Y rheswn dros hyn yw nad oes gennym gar yn ystod y dydd a tydw i ddim yn hoffi'r syriad na alla i gyrraedd yr ysgol os ydw i angen gwneud hynny ar frys. A hefyd mae'n fwy pwysig i ni ei bod hi'n mynd i'r ysgol yn y gymuned leol lle ryda ni'n byw. Felly dwi'n teimlo fod y dewis o addysg Gymraeg wedi cael e gymryd oddi wrthon ni.'

 

“Mae wir yn sefyllfa drist iawn ac rydw i’n teimlo’n emosiynol iawn am y peth. Mae clywed ein merch yn siarad Cymraeg mor dda wedi dim ond 6 mis yn yr ysgol yn wych – mae’n sicr yn well na fy Nghymraeg i ac yn aml mae hi yn fy nghywiro! Rwy’n teimlo’n fam balch iawn!

 

“Hyd yma mae ein profiad o addysg Gymraeg wedi bod yn un positif iawn, ac rydym dal yn gobeithio y byddwn yn gallu defnyddio y Gymraeg yn ein bywydau.”