Rhewlifegwyr o Aberystwyth yn dychwelyd i lethrau Mynydd Everest

Mae rhewlifegwyr o Brifysgol Aberystwyth yn dychwelyd i fynyddoedd yr Himalaya, flwyddyn wedi taith lwyddiannus i dyllu drwy rewlif uchaf y byd.

Bydd yr Athro Bryn Hubbard, sydd wedi ennill Medal y Pegynau a’r ymchwilydd ôl-raddedig Katie Miles o Ganolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth yn teithio i rewlif Khumbu yn nhroedfryniau Mynydd Everest.

 

Byddant yn dechrau ar eu taith y penwythnos hwn, 14/15 Ebrill 2018.

 

Ym mis Ebrill 2017, tra’n gweithio ar uchder o dros 5000m, roedd Hubbard a Miles yn aelodau o’r tîm llwyddiannus cyntaf i dyllu drwy’r rhewlif 17 cilomedr o hyd sy’n llifo o uchder o 7600 metr i tua 4900 metr ar ei bwynt isaf.

 

Ar y pwynt uchaf, ger gwersyll ‘base camp’ Everest, treuliodd y tîm dri diwrnod yn tyllu 150 metr i mewn i’r rhewlif cyn nodi’r strwythur mewnol gan ddefnyddio camera 360° a ddatblygwyd gan y partneriaid ar y prosiect Robertson Geologging o Ddeganwy, gogledd Cymru.

 

Eleni bydd y tîm yn gweithio 300 metr yn uwch i fyny’r rhewlif wrth iddynt astudio strwythur mewnol y rhewlif, mesur ei dymheredd, pa mor gyflym y mae’n llifo a sut y mae dŵr yn draenio drwyddo.

 

Bydd y data a gesglir yn cael ei gyfuno â lluniau lloeren i ddeall sut mae’r rhewlif yn symud ac yn newid dros amser, a sut y gallai ymateb i’r newidiad hinsawdd a ragwelir.

 

Dywedodd yr Athro Hubbard: “Bydd dychwelyd i’r safleoedd y tyllwyd y llynedd yn ein galluogi i gasglu’r cofnodwyr data sydd wedi bod yn crynhoi gwybodaeth dros y 12 mis diwethaf, ac am y tro cyntaf bydd modd i ni weld sut y gall y rhewlif ymateb i newidiadau yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Rydym hefyd am gymryd mesuriadau newydd, ychydig yn uwch na gwersyll ‘base camp’ Everest, a chasglu data am nodweddion yr iâ sy’n disgyn o  ardal sy’n cael ei hadnabod fel ‘Western Cwm’.”

 

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect ymchwil EverDrill sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Leeds.  Bydd arweinydd y prosiect, Dr Duncan Quincey o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Leeds a chyn aelod o staff Prifysgol Aberystwyth, yn goruchwylio’r gwaith maes tra bod y tyllu’n cael ei arwain gan yr Athro Hubbard.

 

Ariannwyd y gwaith gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), ac mae’r Athro Hubbard a Dr Ann Rowan o Brifysgol Sheffield, a astudiodd Rhewlifeg yn Aberystwyth, yn gyd-ymchwilwyr ar y prosiect.

 

Dywedodd Duncan Quincey: “Mae rhewlifoedd yn llifo’n barhaus ac yn amrywiol, gan gymysgu’r eira a ffurfiodd haenau tymhorol yn y lle cyntaf. Golyga hyn nad ydynt yn anaddas fel cofnod o newid hinsawdd y gorffennol. Fodd bynnag, ychydig ymhellach i fyny Khumbu, ar tua 6000 metr, mae cromennu a cholau lle mae’r haenau yma’n gyflawn, a lle mae’n bosibl casglu data am yr eira a’r iâ sydd wedi ffurfio’n flynyddol dros gyfnod o 200 i 300 mlynedd. Mae hwn yn gyfnod sy’n ymestyn o gyn y chwyldro diwydiannol hyd at heddiw, ac o ganlyniad mae’n arwyddocaol iawn ar gyfer ymchwil newid hinsawdd.”

 

Yn ystod y daith bydd Katie Miles, ymchwilydd ôlraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn defnyddio lliw llachar i astudio sut mae dŵr yn llifo i mewn a thrwy’r rhewlif.

 

Dywedodd Katie Miles: “Mae’r dystiolaeth sydd gennym yn awgrymu bod mwy o ddŵr yn llifo i mewn i’r rhewlif wrth i’r iâ doddi, nag sydd yn dod allan o’r ymylon. Bydd arbrofion olrhain lliw yn ein helpu i ddeall yn well i ble mae’r dŵr coll yn mynd, ac yn ein helpu i wella modelau cyfrifiadurol sy’n cael eu defnyddio i ragweld newidiadau i’r rhewlif yn y dyfodol, ac o bosib y dŵr sydd ar gael i’r cymunedau is law.” 

 

Her Dechnegol

 

Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd yr Athro Hubbard a’i gydweithwyr yn gweithio ar uchder o dros 5000m, a bydd yn rhaid iddynt ymdopi â nifer o heriau corfforol a thechnegol.

 

Er mwyn hwyluso’r tyllu, bydd angen codi offer sy’n pwyso tua 1500 cilogram i ben y rhewlif.

 

Bydd hanner yr offer yn cael ei gludo drwy’r awyr gan hofrennydd, a’r hanner arall yn cael ei gario i fyny gan gariwyr a logwyd yn lleol, iaciad a’r tîm ymchwil.

 

Mae’r Athro Hubbard a’i gydweithwyr yn defnyddio hofrenyddion yn gyson i gludo offer i ardaloedd anghysbell ac anodd cyrraedd atynt yn ystod astudiaethau maes. 

 

Ar lefel y môr, byddai’r hofrenyddion a ddefnyddir gan y tîm yn gallu codi dros dunnell ar y tro fel rheol. Am resymau uchder, disgwylir y bydd y prif lwyth ar gyfer y daith hon yn llai na 200 cilogram fesul trip.

 

Bydd y tyllu’n cael ei gyflawni gan uned golchi ceir wedi’i haddasu’n arbennig, sy’n cynhyrchu chwistrelliad o ddŵr poeth ar bwysedd o hyd at 120 bar, sy’n ddigon i dorri trwy darmacadam garw.

 

Bydd dŵr o’r llynnoedd ar arwyneb y rhewlif yn cael ei hidlo a’i gynhesu i ~40oC at ddibenion tyllu. Tra bo’u hoffer yn cael eu cludo drwy’r awyr, bydd Bryn a’i gydweithwyr yn cerdded am 8 diwrnod o faes awyr Lukla wrth iddynt gynefino â’r uchelderau.