Rheoliadau addysg newydd yn peryglu’r targed o filiwn, yn ôl mudiad iaith

08/01/2019

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio y byddai perygl gwirioneddol o fethu targed y miliwn o siaradwyr petai Llywodraeth Cymru yn dilyn awgrym panel i beidio â gosod targedau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion Saesneg.

Mae panel o dan arweiniad y cyn Aelod Cynulliad Aled Roberts wedi bod yn cynnal adolygiad o sefyllfa addysg Gymraeg yn genedlaethol, ac mae disgwyl iddynt gyhoeddi eu hargymhellion y mis yma. Fel rhan o’r gwaith, mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi rheoliadau addysg newydd a fydd yn pennu sut y dylai awdurdodau lleol gynllunio i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg drwy newid strwythur y cynlluniau addysg Gymraeg lleol – Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.  

 

Mewn cyfarfod ym mis Rhagfyr, cyflwynodd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith eu safbwynt gerbron panel y Llywodraeth. Dengys dadansoddiad ystadegol y mudiad y bydd angen i'r mwyafrif o blant 7 mlwydd fod mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr. 

 

Mae’n debygol y bydd y panel yn argymell gosod targedau o’r canol i lawr ar awdurdodau lleol bob deng mlynedd ar gyfer cynyddu addysg Gymraeg. Fodd bynnag, mae’n ymddangos na fydd hynny’n cynnwys targedau i gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar hyn o bryd – rhywbeth sy’n hanfodol er mwyn cyrraedd y miliwn, yn ôl ymgyrchwyr iaith. 

 

Mewn llythyr at y panel wedi’r sesiwn dystiolaeth, dywed Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Mae strategaeth iaith y Llywodraeth yn gosod targed i sicrhau bod hanner y plant sy’n mynychu ysgolion Saesneg yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn 2050. Rydym yn pryderu nad oedd dim byd gan aelodau’r panel i'w ddweud am yr hyn fyddai’n arwain at gyrraedd y targed hwnnw: un sy’n gwbl ganolog i gynllun y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr… 

 

“Nodwyd y byddai gofyniad i gynghorau ‘nodi’ sut maen nhw’n mynd i wella dysgu drwy’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg. Fel y nodwyd gennym, pryderwn fod hynny’n llawer rhy debyg i'r drefn [bresennol] ... polisi sydd wedi arwain at fethiant llwyr. Byddai parhau â’r un polisi yn golygu y bydd argymhelliad yr Athro Sioned Davies yn adroddiad 2013 yn dal i fod heb ei weithredu…” 

 

Ychwanega’r llythyr:   “Ar yr un pryd ag ymatal rhag cymryd camau ystyrlon i gymreigio ysgolion nad ydynt yn ysgolion penodedig Cymraeg ar hyn o bryd, ymddengys fod y panel yn mynd i dderbyn targedau cenedlaethol y Llywodraeth o ran ehangu addysg cyfrwng Cymraeg penodedig. Mae’r targedau hyn yn seiliedig ar dwf o gyfeiriad arall, sef y sector Saesneg. Heb sicrwydd bod twf yn mynd i ddod yn y sector Saesneg, byddai angen i'r twf yn y sector cyfrwng Cymraeg penodedig fod yn llawer iawn uwch …  

 

Gwneud dewis

 

“Mae’n rhaid i'r panel wneud dewis: naill ai amlinellu targedau ystyrlon a phenodol ar gyfer cymreigio ysgolion Saesneg a dwyieithog yng Nghymru; neu ofyn i awdurdodau lleol fynd uwchlaw’r targedau cenedlaethol a amlinellir yng nghynllun ‘Y Gymraeg mewn Addysg’ y Llywodraeth er mwyn gwneud iawn am y diffyg, neu'r ansicrwydd, am allu cyflawni’r targed ar gyfer y sector Saesneg. Teimlwn y byddai penderfyniad i geisio osgoi cyfrifoldeb yn esgeulus ac yn peryglu’r consensws trawsbleidiol o blaid cyrraedd y filiwn o siaradwyr.  

 

“Gadewch i ni fod yn glir: oni bai bod y panel yn sicrhau naill ai (1) bod targedau eglur i awdurdodau ar gyfer cymreigio’r sector cyfrwng Saesneg yn benodol, neu (2) fod targedau llawer uwch ar gyfer nifer y plant fydd yn mynd i'r sector cyfrwng Cymraeg, mae’n anochel y bydd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei fethu.   

 

“Eto, dadleuwn ei bod yn fater o gyfiawnder cymdeithasol bod pob un plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg… Credwn fod sylwadau’r panel yn hyn o beth yn tanlinellu pwysigrwydd ein galwad am Ddeddf Addysg Gymraeg. Rydym yn gryf o’r farn mai dyna ddylai blaenoriaeth deddfu’r Llywodraeth fod o ran yr iaith. Wedi’r cwbl, mae deddfwriaeth addysg Gymraeg yn gwbl greiddiol i'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr.”