Rhannu'r cariad heddiw ar ddydd Santes y Cariadon

25/01/2019

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Fe roedd pobl o bob oed dros Gymru a’r byd yn dathlu Santes Dwynwen heddiw wrth i ni ddangos ein cariad, tuag at deulu, cariadon, gwragedd a chyfeillion.

Mae Lleol.cymru wedi dethol y llu o negeseuon rhamantus ar Trydar yn dynodi’r diwrnod arbennig.  Mae ysgolion, busnesau ac unigolion led-led y wlad wedi bod yn brysur yn dangos eu cariad mewn gwahanol ffyrdd, boed wrth greu cacenni siap calon, cardiau, adrodd straeon neu lunio gwaith celf. 

 

Dathlwch y cariad pur heddiw trwy ddangos eich cariad at gilydd! 

 

Dyma gip o’r negeseuon cariadus ar Trydar wrth inni ddathlu Santes Dwynwen unwaith eto, mwynhewch y rhamant!