Rhannu syniadau i wella’r ffordd mae sefydliadau cyhoeddus yn trin y Gymraeg

02/11/2018

Categori: Addysg, Hamdden, Iaith, Newyddion

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn trefnu seminar i sefydliadau cyhoeddus rannu arferion llwyddiannus a dysgu oddi wrth ei gilydd er mwyn mynd ati i wella safon a chysondeb gwasanaethau Cymraeg yn gyffredinol.

Yn ystod y diwrnod, bydd amryw o sefydliadau yn rhannu profiadau llwyddiannus wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg, cynyddu cyfleoedd i staff ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, hybu defnydd o’r Gymraeg yn ehangach o fewn y gymuned a chadw golwg ar eu perfformiad eu hunain.

 

Un o’r enghreifftiau gaiff eu harddangos yw gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor i geisio cael mwy o staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Yn ôl Lowri Hughes, Pennaeth Polisi a Datblygu Canolfan Bedwyr: “Roedden ni’n ymwybodol bod staff sy’n gallu siarad Cymraeg ddim bob amser yn gwneud hynny yn y gweithle, ac roedden ni eisiau deall y sefyllfa er mwyn gallu cynnig y gefnogaeth fwyaf effeithiol posib iddynt. Roedd gwaith ymchwil cychwynnol gydag un tîm yn dangos mai ychydig dros 25% o’r sgyrsiau rhwng swyddogion oedd yn cael eu cynnal yn Gymraeg. Fel rhan o’r ymchwil fe wnaethom ni ofyn i bump aelod o’r tîm ddefnyddio’r Gymraeg bob amser gyda chydweithwyr oedd yn eu deall. Wrth arsylwi effaith y prosiect, casglwyd bod y Gymraeg wedi cael ei defnyddio dros 60% o’r amser. Nawr, bydd y Brifysgol yn datblygu’r rhaglen ARFer gyda’r nod o lunio pecyn y gall sefydliadau eraill ei ddefnyddio yn eu gweithleoedd nhw hefyd.”

 

Achos arall fydd yn cael ei rannu yw gwaith mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ei wneud i ddatblygu ei wasanaethau Cymraeg drwy hyfforddi staff y ganolfan alwadau sy’n siarad Cymraeg i’w galluogi i ddarparu mwy o wasanaethau drwy gyfrwng yr iaith.

 

Dywedodd Tony Curliss, Rheolwr Gweithredol Cysylltiadau Cwsmeriaid Cyngor Bro Morgannwg: "Yr allwedd i’r llwyddiant yw gwneud y defnydd mwyaf effeithlon posibl o’n hadnoddau staff cyfyngedig. Rydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg union yr un fath, a dyw gwneud pethau yn y Gymraeg ddim anoddach na gwneud pethau yn y Saesneg. Rydym yn cael yr un lefel o foddhad gan ein cwsmeriaid i ymholiadau Cymraeg ag i ymholiadau Saesneg."

 

Codi cwr y llen

 

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Rydyn ni’n gwybod bod gan bobl fwy o gyfleoedd nag erioed i ddefnyddio’r iaith. Ond, tu ôl i bob gwasanaeth neu raglen newydd o ansawdd, mae yna waith mawr yn digwydd yn y cefndir. Drwy godi cwr y llen ar y gwaith hwn a dysgu am brofiadau’r rhai sydd wedi mynd ati i gynllunio’u defnydd o’r Gymraeg drwy feddwl yn greadigol ac arloesol, rwyf am weld arferion llwyddiannus yn cael eu rhannu a’u trosglwyddo. Fy nod yw dangos beth sy’n gweithio, ac ysgogi sefydliadau i ddilyn esiampl ei gilydd ac efelychu prosiectau neu arferion sydd wedi llwyddo gan eraill, fel bod profiadau siaradwyr Cymraeg yn parhau i wella.”