Rhaglen yn nodi hanner can mlynedd ers Arwisgiad dadleuol Tywysog Charles

02/07/2019

Categori: Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Bydd S4C yn nodi hanner canrif ers arwisgo Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon gyda rhaglen ddogfen nos Sul yma sy’n adrodd yr hanes trwy lygaid unigryw’r canwr protest a’r ymgyrchydd iaith Dafydd Iwan.

Yn y rhaglen, Dafydd Iwan: Y Prins a Fi, fe fydd un o ffigyrau amlyca’r mudiad cenedlaethol dros chwe degawd, yn mynd ar daith bersonol yn edrych yn ôl ac yn bwrw goleuni o’r newydd ar un o ddigwyddiadau mwyaf dadleuol yr 20fed ganrif yng Nghymru.

 

Yn ogystal â chlywed atgofion pobl o’r dydd, bydd y rhaglen yn cynnwys stôr o archif arbennig o’r cyfnod fydd yn ein tywys yn ôl i gyfnod cynhyrfus a chythryblus sydd o fewn cof i nifer o wylwyr S4C. 

 

Mae nifer yn cofio 1969 fel blwyddyn o brotest, paranoia a chasineb yng Nghymru gyda Phlaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn prysur fagu stêm. I ganol hyn oll daeth yr arwisgiad, digwyddiad wnaeth gorddi’r dyfroedd a rhwygo mudiadau, cymunedau a theuluoedd.

 

Gyda rhyw 500 miliwn yn gwylio’r seremoni fawreddog ar y teledu roedd llygaid y byd ar Gymru ac ar Gaernarfon, sylw a oedd wrth fodd y rhan fwyaf o bobl Cymru a’r Deyrnas Unedig ond yn dân ar groen nifer o genedlaetholwyr Cymreig.

 

“Dyna’r casineb mwyaf dwi ’di ei weld erioed mewn gwleidyddiaeth oedd yr ymateb i’r protestiadau yn erbyn yr arwisgo. Mi roedd pethau ffiaidd yn cael eu dweud a fy mywyd yn cael ei fygwth yn llythrennol ar bapur ac ar lafar,” dywed Dafydd Iwan, a oedd yn ymgyrchydd ifanc 25 oed adeg yr arwisgo.

 

“Ac yn anffodus roedd Charles yn cael ei roi i fyny fel symbol o burdeb a pherffeithrwydd a finna’ yn cael fy ngosod fel y diawl a’r gelyn cyhoeddus pennaf.”

 

Ar adeg yr arwisgiad, Dafydd Iwan oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yn y dechrau, yn eironig ddigon, roedd Dafydd yn awyddus i osgoi rhoi gormod o sylw i’r arwisgiad, gan ystyried ymgyrchu dros sicrhau hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus, fel arwyddion ffyrdd, maes addysg a darlledu, yn llawer pwysicach.

 

Fel un o arwyr y mudiad iaith ar y pryd, cafodd Dafydd ei dynnu i mewn i’r ddadl ynglŷn â’r arwisgiad.  Mynegodd ei farn yn ei ganeuon protest dychanol, ‘Carlo’ a ‘Croeso Chwedeg Nain’.  

 

“Beth mae’n rhaid i ni gofio ydy bod o’n gyfnod o ddeffro ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ac ail ddiffinio’n perthynas ni fel Cymry gyda Phrydain a gyda Lloegr. Roedd yr arwisgo yn gyfle gwych i ddweud, ‘Reit, dy’n ni ddim yn derbyn yr hen drefn yn ddi-gwestiwn. Mae hwn yn gyfle i ni ddweud dy’n ni ddim yn derbyn twyll Tywysog Cymru a orfodwyd wedi’r goncwest [Normanaidd]. Rydyn ni am dorri cwys ein hunain.’”

 

Ysbrydoli i ymgyrchu

 

Cred Dafydd bod digwyddiadau’r arwisgo wedi ysbrydoli cenhedlaeth o Gymry i ymgyrchu dros hawliau sifil, iaith a gwleidyddol y mae’r wlad yn eu mwynhau bellach.

 

Yn y rhaglen ddadlennol, bydd Dafydd yn cymharu’r dadlau chwyrn a’r ymrannu gwleidyddol ry’n ni’n profi heddiw yn sgil Brexit gyda’r hollti barn a fu nol yn 1969. Bydd hefyd yn holi ydy ein safbwyntiau ar y Frenhiniaeth yn parhau i rannu’r Cymry.

 

Mae’r cythrwfl diweddar ynglŷn ag ail-enwi Pont Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’ yn dangos bod ein hagweddau tuag at y teulu Brenhinol yn parhau i fod yn bwnc llosg. Ac er yn parchu Tywysog Charles am ei farn a’i werthoedd ar gadwraeth a dyfodol ecolegol y blaned, nid yw Dafydd wedi newid ei farn am yr arwisgo na’r teulu brenhinol.

 

“Dwi’n difaru dim ynglŷn â’r ymgyrch arwisgo ond mae angen dangos i bobl y medrwch chi wrthwynebu rhywbeth yn ffyrnig, ond gwneud hynny heb gasineb. Mae’r arwisgo’n rhan o’n hanes ni, dros neu yn erbyn, mae’n rhaid i ni fynd gyda’r darn yna o’n hanes, ond does dim rhaid i ni wneud yr un camgymeriadau. Rhaid i ni symud ymlaen a dyna ydy’r peth pwysig.”