Rhaglen Ffermio ar drywydd Gareth y ffermwr yn Seland Newydd

Mewn rhaglen awr arbennig o Ffermio nos Lun yma ar S4C, bydd un o ffermwyr enwocaf Cymru, Gareth Wyn Jones yn teithio i Seland Newydd, gwlad a welodd gymorthdaliadau yn diflannu yn llwyr dros 30 mlynedd nôl.

Fe fydd yn darganfod sut wnaeth y newid ysgytwol hwnnw effeithio ar ffermydd a chymunedau cefn gwlad yno ac yn holi beth all Cymru ddysgu o brofiad pobl yng ‘Ngwlad y Cwmwl Hir Gwyn’.

Bydd y ffermwr 51 oed o fferm Ty'n Llwyfan, uwchlaw Llanfairfechan, yn cwrdd â nifer o ffermwyr sydd yn wreiddiol o Gymru sy’n gallu son am eu profiadau hwy yn rhedeg busnesau ac yn gweithio yno.

 

Ond mae yna reswm arall a phwysicach pam mae Gareth, ei wraig Rhian a’u merch Mari am fynd allan yno; mae eu mab hynaf, Siôr, allan yno am flwyddyn o brofiad gwaith fel rhan o’i gwrs amaeth ym Mhrifysgol Harper Adams.

 

Dywedodd Gareth, a ddaeth i enwogrwydd yn y gyfres deledu ar y BBC, The Hill Farm ac sydd â chryn ddilyniant ar y cyfryngau cymdeithasol;

 

“Mae pawb sydd wedi bod yno’n brolio sut maen nhw’n ffermio a sut maen nhw mor dda’n troi glaswellt mewn i gig da neu’n llefrith, o’n i’n wir isho ffeindio allan be’ ydy eu cyfrinach nhw ac a ydyn nhw cystal yn ffermio ag ydyn nhw’n chwarae rygbi.

 

“Mi oedd hi’n dipyn o daith, yn bersonol inni fel teulu; mi oedd hi’n emosiynol iawn i weld Siôr a’r teuluoedd bach ar hyd y ffordd; teuluoedd o Gymru sydd isho gwneud cwys newydd yn Seland Newydd, isho gwneud bywoliaeth ac isho gwella eu bywyd a dwi’n teimlo mod i wedi mynd a rhywbeth adra hefo fi.”

Mae Siôr yn gweithio ar fferm 62,000 erw Glenthorne Station ar lannau Llyn Glenthorne yn ardal Canterbury, Ynys y De, lle mae ganddyn nhw 7,000 o famogau bridio, 3500 defaid gwlân a 850 o wartheg.

 

Cymry yn Seland Newydd

 

Mae Ceri Lewis, o Feirionnydd yn wreiddiol, wedi byw a gweithio yn Seland Newydd ers 35 mlynedd a bellach yn rheoli fferm Mount Linton Station ger Ohai, ar waelod Ynys y De ers 15 mlynedd. Mae’n ffermio 32,000 o erwau, 7,000 o wartheg a 54,000 o ddefaid.

 

Cawn gwrdd hefyd â David Morgan, yn wreiddiol o Aberhonddu, sy’n rhedeg fferm geirw Raincliff ger Timaru, Gethin a Glesni o Geredigion ond bellach yn byw ger Mynydd Taranaki, ac â Marc a Nia Jones o Gapel Garmon a Llangernyw, sy’n cael blas ar fyw ar fferm yn Tokoroa, Waikato ar Ynys y Gogledd ac yn godro 950 o wartheg ddwywaith y diwrnod.

 

Mae’n ymweld hefyd â fferm lle y cafodd y ffilmiau The Lord of the Rings a The Hobbit eu saethu ac gweld sut mae’r fferm wedi arallgyfeirio a chymryd mantais o dwristiaeth.

 

Ar ei daith bersonol, mae’r ffermwr difyr, huawdl yn ceisio darganfod beth all ffermwr yn yr ucheldir yng Nghymru ddysgu gan amaethwyr gollodd eu cymorthdaliadau yn 1984 ac a lwyddodd i wneud y wlad yn fwy cystadleuol ac arloesol.