Rali yn dathlu cyfraniad yr Undeb Ewropeaidd i Gymru
Categori: Arian a Busnes, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Iechyd, Newyddion

Bydd rali yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd nos Fawrth i ddathlu cyfraniad yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.
Er i Gymru a Phrydain benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd o drwch blewyn, mae'r farn gyhoeddus yn parhau yn rhanedig, gyda deiseb wedi'i lansio yn galw am ail refferendwm, sydd wedi denu dros 1.5 miliwn o enwau. Fe wnaeth Dinas Caerdydd, Gwynedd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg bleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd un o drefnwyr y digwyddiad, Beca Harries: “Fe bleidleisiodd pobl Caerdydd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig dathlu hynny a dangos nad yw’r canlyniad terfynol yn cynrychioli ein safbwynt ni. Byddai’n hawdd digalonni a bod yn flin, ond rydyn ni eisiau gweithredu’n gadarnhaol a dangos y ffordd fel prifddinas. Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn wlad Ewropeaidd fodern a goddefgar sy’n edrych allan ar y byd.”
Ychwanegodd cyd-drefnydd, Sioned James: “Nid protest yn erbyn y canlyniadau yw’r digwyddiad, ond cyfle i ddangos ein gwerthfawrogiad o'r Undeb Ewropeaidd, a phopeth mae'r Undeb wedi'i gynnig i Gymru. Ymunwch gyda ni!”