Rali flynyddol yn galw am addysg Gymraeg i bawb

07/10/2016

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal ei rali flynyddol yn Llangefni yfory, wrth iddynt alw am addysg Gymraeg i bawb.

Mae nifer o ysgolion Ynys Môn yn parhau i ddarparu addysg sy'n golygu bod plant heb y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn Gymraeg wrth adael y system addysg. Rhwng 2009 a 2013 buodd cwymp yng nghanran y disgyblion 14 mlwydd oed a gafodd eu hasesu yn iaith gyntaf i lawr i 62% ar yr ynys. Yn Sir Gaerfyrddin, mae gan y cyngor gynllun i gwella darpariaeth pob ysgol fel bod yr addysg yn gyfan gwbl Gymraeg drwy symud ysgolion i fyny categorïau ieithyddol.  

 

Bydd nifer o siaradwyr lleol, gan gynnwys y Prifardd Cen Williams, y Cyng. Carwyn Jones, o Gyngor Môn; Gwion Morris Jones; Paul Magee, disgybl mewn ysgol leol, a Siân Gwenllian AC  yn annerch y dorf yn y rali a fydd yn cael ei gynnal am 2pm, ddydd Sadwrn 8fed Hydref yn Sgwâr Bulkley yng nghanol dref Llangefni.  

 

Wrth siarad cyn y rali flynyddol genedlaethol y Gymdeithas yn y dref, dywedodd Gwion Morris Jones, disgybl 17 mlwydd oed sy'n mynychu Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, a fydd yn annerch y dorf yn y rali: "Yn fy marn i, addysg Gymraeg yw allwedd achub yr iaith. Mae dulliau trochi wedi eu profi'n llwyddiannus iawn yn nifer o rannau o'r wlad. Dylen ni ei ystyried fel rhywbeth di-gwestiwn ar draws y Gogledd. Dylai addysg cyfrwng Cymraeg effeithiol fod yn ddi-amod; rhywbeth angenrheidiol i bob plentyn. Mae addysg Gymraeg wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi ac wedi fy nghryfhau i fel unigolyn. Dydy o ddim yn hawdd weithiau achos bod y meddylfryd dal i fod y dylai pethau ffurfiol fod yn Saesneg. Ond mae'r Gymraeg wedi agor drysau i mi ac wedi rhoi cyfleoedd fel gweithgareddau'r Urdd ac eraill." 

 

Cyfundrefn sy’n amddifadu

 

Dywedodd Menna Machreth, cadeirydd rhanbarth Gwynedd-Môn y mudiad: "Fedrwn ni ddim parhau efo cyfundrefn addysg sy'n amddifadu cymaint o'n plant o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg – pam ar wyneb ar ddaear ydy cymaint â thri ym mhob deg o'n plant yn y sefyllfa yma? Mae'n gwbl annerbyniol yn y 21ain ganrif – ac mae rhaid i'r cyngor sir ateb am eu diffyg uchelgais. Mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau bod pob un plentyn yn cael addysg gyfan gwbl Gymraeg eu hiaith" 

 

Ychwanegodd Menna Machreth, "Mae hefyd diffyg cynllunio addysg yn y sir yn wyneb datblygiadau enfawr Land & Lakes, y Cynllun Datblygu Lleol a'r mewnlifiad os daw Wylfa B. Mae'n rhaid i'r gwleidyddion fynd i'r afael â hyn."

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru