Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr!
10/07/2012
Categori: Celfyddydau

I nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn hanner cant, ac i ddathlu pum degawd o ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, bydd 50 o artistiaid Cymraeg blaenllaw yn perfformio mewn gig enfawr ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid.
Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr
13–14 Gorffennaf 2012, Pafiliwn Pontrhydfendigaid
Hanner Cant fydd y gig Cymraeg mwyaf ers degawdau, gyda bandiau’n chwarae ar dri llwyfan o 6yh nos Wener ac o ganol dydd Sadwrn hyd at yr oriau mân. Byddwn yn cyhoeddi enwau’r artistiaid un bob wythnos rhwng nawr a’r penwythnos mawr:

Ewch draw i wefan www.hannercant.com