Pryder mudiad iaith dros ddiffyg targedau awdurdodau lleol

04/05/2018

Categori: Addysg, Iaith, Iechyd, Newyddion

Dim ond un cyngor sir yng Nghymru sydd gyda thargedau hir dymor i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ôl ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a gyhoeddwyd cyn seminar sy'n trafod y mater heddiw.

Mewn ymateb i gais am wybodaeth gan y mudiad at holl awdurdodau lleol y wlad, o'r rhai a ymatebodd, dim ond Cyngor Conwy oedd wedi mabwysiadu targedau ar gyfer ehangu addysg cyfrwng Cymraeg tu hwnt i'r flwyddyn 2022. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ddyletswydd i bob cyngor lunio cynllun ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, sef Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, ar gyfer cyfnod o 3 mlynedd, ac mae rhai yn cynnwys targedau addysg yn eu strategaethau hybu'r Gymraeg sy'n weithredol tan 2022.   

 

Daw'r ymchwil wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i sefydlu bwrdd annibynnol i gynghori ar newidiadau i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n sail i'r cynlluniau hynny dros y flwyddyn nesa. Daeth yr ymrwymiadau hynny yn sgil adolygiad brys o'r gyfundrefn gan y cyn-Aelod Cynulliad Aled Roberts a gynhaliwyd y llynedd.  

 

Diffyg cynllunio tymor hir 

 

Wrth ymateb i'r newyddion bod diffyg cynllunio hir dymor gan gynghorau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:  "Mae'n gwbl amlwg nad yw'r Cynlluniau Strategol mewn Addysg yn addas at eu diben. Dydyn nhw heb gyflawni ar y targedau cenedlaethol sydd wedi eu gosod, ac mae'r ymchwil rydyn ni wedi ei wneud yn amlygu'r ffaith nad ydyn nhw'n sicrhau bod cynllunio tymor hir yn digwydd ar lefel leol. Mae ymatebion y cynghorau'n ddiddorol achos ei fod yn amlwg bod y rhan fwyaf o siroedd heb ymateb i'r her o gyrraedd y miliwn o siaradwyr. Yn wir, mae rhai siroedd, megis Wrecsam, yn defnyddio 'ymateb i'r galw' fel esgus i beidio â gwneud mwy. 

 

"O ganlyniad, mae gyda ni system, sydd, yn gyffredinol, yn atal normaleiddio addysg Gymraeg. Mae angen troi'r system ar ei ben a chynllunio'n rhagweithiol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae cynlluniau'r Llywodraeth yn awgrymu bydd rhaid aros nes 2170 i sicrhau hynny; mae angen gosod targed llawer yn gynharach. Felly mae angen newid y sail ddeddfwriaethol ac mae angen trafodaeth ynglŷn â hynny. Yn lle chwarae gyda Bil y Gymraeg a fyddai'n gwanhau ein hawliau, dylai'r Llywodraeth fod yn canolbwyntio ei ymdrechion deddfu ar newid y ddeddfwriaeth addysg Gymraeg bresennol."  

 

Bydd Aled Roberts, awdur yr adolygiad brys o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Prif Weithredwr CBAC Gareth Pierce ac Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC yn siarad mewn seminar addysg a gynhelir gan Gymdeithas yr Iaith heddiw yn Aberystwyth.