Pryder dros y safonau iaith ar gyfer prifysgolion

07/03/2016

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae cynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru wedi ysgrifennu at Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad, yn galw arnynt i wrthod y Safonau Iaith sy’n ymwneud â sefydliadau addysg a phrifysgolion.

Bydd y pwyllgor yn trafod trydydd cylch Safonau’r Gymraeg ddydd Llun, 7 Mawrth, ond mae’r myfyrwyr yn gofyn iddynt i wrthod y Safonau, a chaniatáu mwy o amser i ddatrys “problemau difrifol.”

 

Mae’r myfyrwyr yn pryderu fod y Safonau arfaethedig wedi eu cyfyngu i rai gwasanaethau yn unig ac y byddent yn gam yn ôl ar y gyfundrefn cynlluniau iaith Gymraeg bresennol mewn "sawl ffordd o bwys neilltuol". Mae'n ymddangos y byddai'r gofyn cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yn ddwyieithog yng Nghanolfan Gelfyddydol newydd Pontio ym Mangor a Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, er enghraifft, yn cael eu hepgor. 

 

 

Mae cynllun iaith pob prifysgol yng Nghymru ar hyn o bryd hefyd yn nodi y byddant yn delio â phob gohebiaeth Cymraeg yn ymwneud ag unrhyw fater yn Gymraeg. Ond, ofnir y byddai'r disgwyliad hwnnw yn cael ei ddileu petai'r Rheoliadau arfaethedig yn cael eu cymeradwyo. 

 

 

Arwyddo llythyr agored

 

Mae cynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg prifysgolion Caerdydd, Bangor, Aberystwyth, Abertawe a'r Drindod Dewi Sant wedi arwyddo'r llythyr agored at y pwyllgor. Meddent yn eu llythyr: "Hyd y gwelwn, canlyniad y cymalau hyn yw cyfyngu’r holl Safonau cyflenwi gwasanaethau i restr gul o weithgareddau yn ymwneud ag elfennau o ddarparu rhai gwasanaethau i fyfyrwyr. Ymddengys fod hyn wedi’i wneud heb unrhyw drafodaeth gyda’r cyhoedd na myfyrwyr." 

 

"Gan gofio fod prifysgolion a sefydliadau addysg yn gyrff mawr o bwys cenedlaethol i’n gwlad, mae’n annerbyniol lleihau’n sylweddol ar y dyletswyddau ieithyddol sydd arnynt eisoes dan y gyfundrefn cynlluniau iaith Gymraeg. Dyna’n union fyddai canlyniad cymeradwyo’r is-ddeddfwriaeth ffaeledig hon." 

 

Bu myfyrwyr ledled Cymru yn arwyddo wal 'Byw yn Gymraeg' yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf, gan herio gwleidyddion, penaethiaid prifysgolion a Chomisiynydd y Gymraeg i ateb eu dyheadau o ran byw drwy'r iaith ym mhrifysgolion y wlad. Un o'r galwadau penodol a wnaed oedd sicrhau hawliau clir i fyfyrwyr allu "byw, gweithio a mwynhau" yn y Gymraeg yn eu colegau. 
 

Prydera’r myfyrwyr hefyd na fyddai dyletswydd ar brifysgolion i ddarparu llety cyfrwng Cymraeg i’w myfyrwyr o dan y Safonau Iaith. O dan y drefn bresennol, mae dyletswydd ar rai prifysgolion i ddarparu llety cyfrwng Cymraeg i’w myfyrwyr, ond dywed y myfyrwyr y byddai’r rheoliadau newydd yn dileu’r disgwyliad hwnnw hefyd.  

 

Pryderon pellach

 

Mae pryderon pellach wedi'u codi ynghylch cyfieithu gwaith asesedig myfyrwyr i'r Saesneg fel mater o drefn, gan beidio â darparu'r adborth arno yn y Gymraeg.  Mae'r cynrychiolwyr myfyrwyr yn anhapus hefyd y bydd gan staff prifysgolion hawliau i Fewnrwydi a rhyngwynebau cyfrifiadurol Cymraeg, ond yr amddifedir y "myfyrwyr y mae'r prifysgolion hyn yma i'w gwasanaethu" o'r un lefel o wasanaeth Cymraeg: "Byddai cymeradwyo Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) yn eu ffurf bresennol yn creu dryswch a chanlyniadau andwyol o ran cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein prifysgolion a sefydliadau addysg."

 

"Credwn mai’r peth cyfrifol a rhesymol i Aelodau’r Pwyllgor ei wneud yw gwrthod Safonau’r Gymraeg (Rhif 3), gan ganiatáu mwy o amser i drafod goblygiadau’r pwyntiau uchod ac i sicrhau is-ddeddfwriaeth gadarn o ran ystyr, sy’n dderbyniol i’r sefydliadau a’r defnyddwyr ac sy’n unol ag egwyddorion gwaelodol y ddeddfwriaeth gynradd ynghyd ag amcanion polisi’r is-ddeddfwriaeth hon." 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru