Prif swyddog iaith newydd yn paratoi am yr heriau a’r cyfleoedd i’r Gymraeg ym Môn

Mae Menter Iaith Môn wedi penodi prif swyddog iaith newydd i gynorthwyo'r ymdrechion i wynebu'r her sylweddol i'r Gymraeg ar yr Ynys.

Mae Elen Hughes yn wyneb cyfarwydd i nifer ar yr ynys, gyda'i swyddi blaenorol i’r Fenter, yn cyflwyno Cymraeg i fusnesau ac yn cydlynu’r prosiect deinamig Llwyddo’n Lleol 2050. Profodd Elen y tân yn ei bol dros wireddu’r potensial dros y Gymraeg a thros bobl yr ynys.
 
Mae’n derbyn y rôl gyda balchder, gan gydnabod difrifoldeb yr her sy’n wynebu’r Gymraeg, y bobl sy’n byw ei bywydau drwy’r Gymraeg, a’r bobl sydd eto heb gael cyfle i fanteisio ar sgiliau Cymraeg a dwyieithrwydd.

 

Dywedodd: “Gwyddwn fod yna ewyllys dda ryfeddol yn y gymuned tuag at waith tîm y Fenter Iaith ym Môn, ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o hynny. Mae cymeriad y Fenter yn adlewyrchu cryfder a dyfeisgarwch pobl yr ynys, a’r ewyllys i lwyddo ar bob cyfri, agweddau sy’n tanio’r brwdfrydedd a’r egni i gyflawni dyheadau ein cefnogwyr i gynnig gwasanaethau a phrosiectau sy’n adlewyrchu eu hanghenion.

 

“Uchelgais Menter Iaith Môn yw, nid yn unig fod y Gymraeg am ddal ei thir yn un o’i chadarnleoedd ond, y bydd y defnydd o’r iaith yn tyfu. I’r rhai sy’n anobeithio am hanes y Gymraeg yn y degawd a fu, teg dweud, er ei fod yn ymddangos i’r Gymraeg gymryd cam yn ôl ar adegau, bu hefyd dau gam pwysig iawn ymlaen. Yn gyntaf mae ymrwymiad y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gonglfaen i’n holl dargedau, gan gydweithio â phartneriaid eraill megis drwy Fforwm Iaith Môn. Yn ail, ac yn bwysig iawn yn fy nghyd-destun i, yw’r gwaith a’r bwrlwm anhygoel gan dîm Menter Iaith Môn dros y blynyddoedd, dan arweiniad Nia Thomas a’i rhagflaenydd Helen Williams. Mae’r sylfaen a’r cynsail i fentro yn gadarn, ac felly parhau gyda’r cydweithio cymunedol i lwyddo yw’r nod, heb os!”

 

“Rhaid cydnabod yr heriau sydd o’n blaenau. Mae lefelau trosglwyddo’r Gymraeg i’r plant yn nheuluoedd Môn, yn enwedig lle mai dim ond un rhiant all siarad y Gymraeg, yn isel. Her hefyd yw sicrhau fod plant tlotaf ein cymdeithas yn cael mynediad di-dâl at drochi Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â sicrhau mynediad at y Gymraeg i bawb o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol. Ar raddfa ehangach, ac yn bryder newydd yn dilyn cyfyngiadau Cofid, bydd rhaid ail-afael ar y tir a gollwyd o ran defnydd y Gymraeg yn y cartref, ysgolion a’r gymuned. Her ychwanegol, na wyddwn ei fesur eto, yw effaith posib Brexit ar Gaergybi a’r diwydiant amaeth, y diwydiant sy’n cynrychioli’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, mae yna resymau i fod yn obeithiol, a hynny oherwydd dycnwch pobl Môn a’u parodrwydd i ddathlu swyn ei hiaith, diwylliant ag amgylchedd.”

 

Gwaith holl bwysig

 

“Dw i’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith holl bwysig yma, mewn partneriaeth ag eraill. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â bod yn ddiarth, a chysylltwch os oes gennych unrhyw syniadau neu brosiectau sydd am wireddu potensial ffyniant y Gymraeg yma ym Môn.”

 

Mae Menter Iaith Môn yn 1 o 22 Menter Iaith sy’n gwasanaethu pob rhan o Gymru. Y Mentrau Iaith yw’r ffordd mae cymunedau lleol Cymru yn gweithredu er budd y Gymraeg. Mae Menter Iaith Môn yn un o deulu prosiectau'r cwmni dielw Menter Môn. Mae modd cysylltu â Menter Iaith Môn drwy e-bostio iaith@mentermon.com.