Plant cynradd yn cystadlu i ennill teitl Carol yr Ŵyl 2017

12/12/2017

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Newyddion

Mae'r Nadolig yn prysur agosáu ac mi fydd rhai o gorau plant Cymru yn perfformio carolau gwreiddiol yn y gobaith o gipio gwobr Carol yr Ŵyl 2017.

Mi fydd gwledd o gerddoriaeth mewn dwy raglen arbennig ar S4C (nos Fawrth, 12 a 19 Rhagfyr) wrth i gorau ysgolion cynradd berfformio carolau gwreiddiol wedi'u cyfansoddi gan eu hathrawon cerdd. Mae cyflwynydd y rhaglenni, Elin Fflur, wrth ei bodd yn gwylio'r perfformiadau.

 

"Dwi wir yn mwynhau gweld cymaint o ysgolion yn cystadlu ac mae'r safon yn codi o flwyddyn i flwyddyn. Mae hi'n anhygoel meddwl bod dros 100 o garolau gwreiddiol wedi eu cyfansoddi ers dechrau'r gystadleuaeth. Mae naws y rhaglenni mor Nadoligaidd ac yn cael pawb i deimlo

ysbryd yr Ŵyl!" meddai'r gantores a'r gyflwynwraig o Sir Fôn.

 

"Mi ro'n i'n canu yng nghôr Ysgol Gynradd Llanfairpwll ac roedd fy mam yn ein harwain ar yr un cyfnod a dwi'n dal i hiraethu am hynny. Does dim byd tebyg i greu sŵn mawr melys mewn côr!"

 

Yr ysgolion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw: Ysgol Gymraeg Sant Curig, Y Barri; Ysgol yr Hendy, Pontarddulais; Ysgol y Graig, Llangefni; Ysgol Iolo Morganwg, Bro Morgannwg; Ysgol Y Felinheli; Ysgol Gynradd Dolau, Pontyclun; Ysgol Gynradd Dolbadarn, Caernarfon; Ysgol Gymraeg y Gaiman, Patagonia; Ysgol Rhos Helyg, Llangeitho ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

 

Y tenor ac aelod Only Men Aloud, Steffan Rhys Hughes, a'r actores a chantores Elin Llwyd yw'r beirniaid eleni. Nhw fydd â'r dasg anodd o feirniadu'r perfformiadau a dewis y côr buddugol.

 

Ysgol y Gaiman

 

"Dwi wrth fy modd bod Ysgol y Gaiman wedi penderfynu cystadlu eleni. Es i draw i'r ysgol ym Mhatagonia ryw dair blynedd yn ôl ac mae gweld bod cyffro Carol yr Ŵyl wedi cyrraedd ochr arall y byd yn hynod o gyffrous!

 

"Tydi hi ddim yn gyfrinach fy mod i'n caru'r Nadolig," meddai Elin Fflur, sydd wedi dechrau paratoi at yr Ŵyl yn barod. "Mae fy addurniadau i fyny ers canol Tachwedd a does gen i ddim cywilydd yn cyfaddef hynny!

 

"Fy hoff beth yw bod pawb yn cael gorffen gwaith a dod ynghyd a does dim brys ar neb i fynd i nunlle. Mae'n amser bendigedig gyda'r goleuadau lliwgar, Siôn Corn, carolau a siopa yn y ffeiriau Nadolig. Bydda i'n treulio'r Nadolig ar Ynys Môn gyda'r teulu i gyd, dwi'n methu aros!"

 

Bydd yn dechrau heno am 8.25, S4C. gyda’r raglen ar nos Fawrth Rhagfyr 19 am 8.25.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru