Traddodiadau Gŵyl y Pasg

02/04/2015

Categori: Addysg, Bwyd, Hamdden

Fe rydym yn awr ar drothwy Gŵyl y Pasg, ond beth yw cefndir y penwythnos hir hwn?  Penwythnos y Pasg yw gŵyl bwysicaf Cristnogaeth.

 

Mae tridiau'r ŵyl yn cael ei ddathlu gan Gristionogion trwy’r byd yn dechrau heddiw, gyda Dydd Iau Cablyd, pan gynhaliwyd y Swper Olaf, sy'n seiliedig ar Pesach iddewig neu Passover yn Saesneg. 

 

Ar ddydd Gwener y Groglith, fe gafodd Iesu Grist ei groeshoelio ar fryn Calfaria, ger Jerusalem, yn ôl yr Efengylau. Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist ar y trydydd dydd a hynny ar Ddydd Sul y Pasg.

 

Fe gaiff Gŵyl Y Pasg ei ddathlu ar y dydd Sul cyntaf sydd yn dilyn y lleuad llawn sydd yn digwydd ar neu wedi Mawrth yr 21ain. Gall y Pasg ddigwydd felly cyn gynhared â Mawrth yr 22ain neu gyn hwyred ag Ebrill y 25ain.

 

Ceir nifer o draddodiadau sy'n ymwneud â'r Pasg, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r crefyddau Paganaidd.  Mae yna sawl damcaniaeth yn honni fod y Pasg yn seiliedig ar ddathliadau paganaidd cyhydnos gwanwyn (Spring Equinox) sy’n dathlu bywyd newydd ac adfywiad tymor y gwanwyn.  Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill drwy'r byd, mae'n arferiad poblogaidd o roi ŵy Pasg fel anrheg i ffrindiau a theulu. Ac y mae’r penwythnos hwn wedi datblygu’n gyfle masnachol enfawr i gwmniau siocled. 

 

Roedd yr arfer o wy pasg yn bodoli yn nyddiau cynnar Cristionogaeth yn Mesopotamia, ble roeddynt yn lliwio wyau yn goch er cof am waed Crist yn dilyn y croeshoeiad.  Mewn tradoddiad mwy diweddar, roedd yr wy yn symbol o’r bedd gwag.  

 

Pasg hapus i bawb!