Gemau Sbaen Sgorio i'w cael ar y We
24/08/2015
Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd goreuon gemau pêl-droed Sbaen yn cael eu cynnwys yn Sgorio bob nos Lun – ac y bydd hefyd ar gael i'w gwylio ar-lein ar y we ar s4c.cymru ac iPlayer.
Bydd Sgorio ar nos Lun yn cynnwys y chwarae o gemau La Liga, prif gynghrair Sbaen. Bydd Sgorio bob nos Lun am 6.30 hefyd ar gael ar wasanaeth ar alw’r sianel ar wefan s4c.cymru ac iPlayer am saith diwrnod.
Bydd posib i wylwyr S4C weld uchafbwyntiau o’r Calderon, Nou Camp a’r Bernebeu a gweld perfformiadau Gareth Bale i Real Madrid ar y We.
Bydd y gemau sy'n cael sylw gan Sgorio bob prynhawn Sadwrn – yn cynnwys Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, Cwp ...
Cymru: y gorau am ailgylchu
21/08/2015
Categori: Amgylchedd, Iechyd, Newyddion
Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd yn dangos bod Cymru’n ailgylchu mwy nag erioed a’i bod yn well na gwledydd eraill Prydain am ailgylchu.
Mae’r ffigurau diweddaraf amodol yn dangos mai 56% oedd y gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio ar gyfer 2014-15, cynnydd o 2 bwynt canran o’i chymharu â’r llynedd a 4% yn uwch na’r targed statudol o 52%.
Croesawodd Gweinidog yr Amgylchedd, Carl Sargeant y ffigurau, “Rwy’n falch iawn bod y cyfraddau ailgylchu’n dal i godi yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol wedi gweithio’n galed i annog trigolion i ailgylchu fwy ac mae’n edrych yn debyg bod hyn yn gwn ...
Cyfrol o waith Curnow Vosper
21/08/2015
Categori: Celfyddydau, Llenyddiaeth
Mae’r darlun enwog o Salem bellach yn ddelwedd eiconig Gymreig sy’n cymharu gyda physt rygbi, cennin a defaid o ran adnabyddiaeth. Mae darlun yr artist Curnow Vosper wedi ysbrydoli, gogleisio a rhyfeddu beirdd haneswyr ac artistiaid drwy’r ugeinfed ganrif.
Yr wythnos hon bydd Gwasg Y Lolfa yn rhyddhau cofiant llawn Curnow Vosper sef Curnow Vosper: His Life and His Works gan Joylon Goodman. Dyma’r gyfrol sy’n cynnwys y nifer mwyaf o’i waith i’w cyhoeddi erioed gyda’i gilydd mewn rhwng dau glawr.
Ganed Curow Vosper yn Nyfnaint ond roedd yn ystyried ei hun yn Gernywr. Wedi cael ei hyfforddi ym Mharis aeth ati i weithio fel ...
Cyhoeddi hystings iaith cyntaf etholi...
21/08/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y bydd cyfarfod hysting cyntaf etholiadau'r Cynulliad am y Gymraeg yn cael ei gynnal yn neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth ar ddechrau mis Hydref, gyda chynrychiolwyr o’r prif bleidiau yn cymryd rhan.
Mae'r ddadl etholiadol yn dilyn lansio dogfen weledigaeth y mudiad: 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg' yn y Cynulliad yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf. Mae gwleidyddion o bob plaid eisoes wedi cefnogi tri phrif nod rhaglen y mudiad ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru sef creu miliwn o siaradwyr, atal yr allfudiad a defnyddio'r Gymraeg ym mhob maes bywyd. &nbs ...