Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

App newydd i Eisteddfodwyr yr Urdd

29/05/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Fe fydd gan Eisteddfodwyr gyfle i ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddara' i gael holl wybodaeth am Eisteddfod yr Urdd.
Ymhen wythnos fe fydd Eisteddfod yr Urdd yn cychwyn yn Eryri ar dir Glynllifon.
Wedi nawdd gan gwmni Telesgop, un o brif bartneriaid yr Eisteddfod, mae'r Urdd yn lansio eu App cyntaf, Ap Urdd.
Bydd modd i Eisteddfodwyr allu sgrolio dros fap y Maes ar eu ffôn, gweld amserlen y Pafiliwn a rhestr o ddigwyddiadau'r Maes a gwybodaeth ddefnyddiol arall hefyd.
Bydd lluniau'r wythnos yn cael eu huwchlwytho ar yr App yn ddyddiol, felly hyd yn oes os nad oes modd i chi fod yng Nglynllifon bob dydd bydd modd i chi gael blas yr ŵyl yng nghledr eich llaw!
 

Mae'r App hefyd ...

darllenwch mwy

Mis i fynd!

20/05/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae'r gwaith o adeiladu'r maes wedi cychwyn gyda'r tracfyrddau cyntaf wrthi'n cael eu gosod. Mae'r bont dros yr afon wedi'i chodi hefyd!
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 
 

 
 

 
Pafiliwn yr Eisteddfod ar ei draed


 
Yn pontio'r maes parcio a maes yr Eisteddfod!


 
Os oes ganddo chi luniau o fwrlwm yr Eisteddfod yn eich ardal chi yna mae croeso i chi eu e-bostio at steffanprys@urdd.org
 
Ffynhonnell: Eisteddfod yr Urdd
 
Os oes gyda chi newyddion am eich menter, prosiect, busnes, sefydliad neu rywbeth unigol, danfonwch at post@lleol.net ac fe wnawn roi'r neges ar led ...

darllenwch mwy

Clasur a’r cyfoes yng Nghanolfan Mile...

20/05/2012
Categori: Celfyddydau

Cyfunwch y clasur o ffilm gan Universal Pictures o 1931 gyda Béla Lugosi a pherfformiad byw o’i sgôr i’r ffilm ac fe gewch brofiad newydd o Dracula ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ar 27 Mai. Yn ogystal â gweld y ffilm fawreddog ar y llwyfan bydd y Kronos Quartet ac un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol ein hoes, Philip Glass yn perfformio. Am ragor o fanylion cliciwch yma.
 
Ar 28 Mehefin bydd rhai o gwmnïau mwyaf blaengar y DU yn perfformio yn y Ganolfan, gyda darnau dawns wedi’u hysbrydoli gan Gemau Olympaidd Llundain 2012. Gyda dawnswyr sy’n rhagori yn eu maes, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, English National Ballet a Scottis ...

darllenwch mwy

Arbenigedd yn yr Angel

15/05/2012
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Yn sgil llwyddiant ysgubol y digwyddiad Rhwydweithio Rhwydd a gynhaliwyd yng Nghlwb y Quins yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar, cynhaliwyd ail rownd yn yr Angel, Llandeilo, ar 9 Mai ar gyfer grŵp newydd o entrepreneuriaid ifanc Sir Gâr.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Tomas Marks a Linda Morris o’r prosiect Mentro. Caiff Mentro ei redeg gan Fenter Bro Dinefwr ac mae’n rhan o brosiect Entrepreneuriaeth Wledig Cynllun Datblygu Gwledig Sir Gâr*, sy’n darparu cymorth busnes am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed. Trefnwyd y digwyddiad i roi cyfle i rwydweithio ac er mwyn i bobl busnes y dyfodol gael cyngor gan fusnesau sefydledig.
Rhoddwyd 4 munud i’r entrepreneuri ...

darllenwch mwy