Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

Plaid Cymru yn galw am i’r GIG gael e...

05/09/2014
Categori: Iechyd, Newyddion

Mae Plaid Cymru wedi annog llywodraeth y DG i wneud yn siŵr fod bargen masnach rydd newydd rhwng yr UE ac UDA yn benodol yn eithrio’r GIG o brynu-allan gan gwmnïau preifat o UDA.
 
Nod y fargen - a adwaenir fel TTIP - yw agor marchnad yr UE i UDA a vice versa. Mae rhai Aelod-Wladwriaethau wedi sicrhau eithriadau o’r trafodaethau cychwynnol: er enghraifft, mae Ffrainc wedi gwarchod ei diwydiant ffilm rhag y fargen fasnach rydd.
 
Yn dilyn cyfarfodydd gyda swyddogion yr UE ym Mrwsel yr wythnos hon, dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones:
 
"Rhaid i drafodaethau ynghylch y fargen fasnach hon gydag UDA ofalu bod y GIG yn cael ei amddiffyn ...

darllenwch mwy

Cyhoeddi rhestr fer gwobr Dylan Thomas

05/09/2014
Categori: Llenyddiaeth, Newyddion

Ar nos Iau y 4ydd o Fedi yn Abertawe, tref enedigol y bardd Dylan Thomas, cyhoeddwyd rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2014, y wobr uchaf ei bri i awduron ifanc. Mae’n flwyddyn fawr eleni gyda chanmlwyddiant ers geni’r bardd.
 
Ar y rhestr fer eleni mae yna farddoniaeth, rhyddiaith a drama, gyda sawl awdur yn tynnu ar Gymru, Lloegr, Iwerddon, Jamaica, America a Seland newydd am ysbrydoliaeth. 

Noddir y wobr gan Brifysgol Abertawe, ac fel rhan o’r wobr, dyfernir £30,000 am y gwaith llenyddol gorau a gyhoeddwyd neu a gynhyrchwyd yn yr iaith Saesneg gan awdur sy’n 39 oed neu’n iau.
 
Un o feirniad y wobr eleni yw Cerys Matth ...

darllenwch mwy

Tafwyl 2014 yn llwyddiant - Darllenwc...

04/09/2014
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Nol ym mis Gorffennaf yn y brifddinas un o’r digwyddiadau’r Haf oedd Tafwyl. Gyda digwyddiadau ar draws y ddinas y prif atyniad oedd Ffair Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, a nawr mae gwerthusiad yr ŵyl i mewn.   
 
Roedd Tafwyl 2014 yn hynod lwyddiannus gyda 16,534 yn mynychu Ffair Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, a 18,717 o bobl yn mynychu’r ŵyl dros wythnos Tafwyl 2014, cynnydd mawr o 35.9% o’i gymharu â 2013. 
 
Trefnwyr yr ŵyl yw Menter Caerdydd ond mae’n amlwg yn y gwerthusiad bod cydweithio gyda phartneriaid a noddwyr yn allweddol i lwyddiant yr ŵyl. Eleni am y tro cyntaf roedd yna 4 ‘Llysgennad Tafwyl’, sef 4 enw ...

darllenwch mwy

Prifysgol Bangor yn gorfod gohirio cy...

03/09/2014
Categori: Celfyddydau, Newyddion


ydym yn siomedig iawn i ddeall heddiw na fydd Theatr Bryn Terfel, yng Nghanolfan Pontio, wedi’i chwblhau mewn pryd i ni gael llwyfannu Chwalfa y mis hwn.
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, a Chyfarwyddwr Chwalfa;
“Rhan ganolog o weledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru yw gweithio gyda chymunedau i greu darn o waith theatr pwerus, pwrpasol.  Mae yna fisoedd o waith paratoi wedi digwydd yn barod, a nifer ohonom, yn artistiaid a gweithwyr theatr proffesiynol yn ogystal â thrigolion yr ardal, wedi gweithio’n ddiwyd ac ymroddedig i greu cynhyrchiad eithriadol.  Hoffwn ddiolch ar ran y cwmni i bawb sydd wedi bod yn rhan o&rsqu ...

darllenwch mwy