Dyfodol Tu Chwith
24/11/2011
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion
"Rydym yn hynod siomedig i glywed nad yw’r Cyngor Llyfrau am gefnogi cylchgrawn Tu Chwith yn ariannol o hyn ymlaen. Dyma’r unig gyhoeddiad i bobl ifainc, gan bobl ifainc, a bydd yn ergyd fawr i’r rhai sydd am gyhoeddi am y tro cyntaf a meithrin hyder yn eu gwaith. Mae’n ergyd i ni hefyd am i’r penderfyniad gael ei wneud cyn i ni, fel golygyddion newydd, gael cyfle i gyhoeddi ein cyfrol gyntaf.
Mae llawer iawn o bobl wedi gweithio’n wirfoddol, i gadw’r cylchgrawn yma ar ei draed gan fod cyfran helaeth y grant yn mynd tuag at gostau cynhyrchu. Mae’n drueni bod y cylchgrawn, a gychwynnwyd o dan olygyddiaeth Dr Simon Brook ...
Cynnydd mewn prisiau yswiriant ceir y...
23/11/2011
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Newyddion
Mae adroddiad gan AA Roadside Recovery Group yn datgan bod y cynnydd mewn prisiau yswiriant ceir yn dechrau arafu ar ol tair mlynedd o gynnyddion uchel iawn.
Yn y 12 mis i Mawrth 2011 roedd prisiau wedi cynyddu ar gyfertaledd tua 40%, ond yn y 6 mis i diwedd mis Medi 2011 roedd hyn wedi lleihau i fod yn gynnydd o 16%.
Mae Credit Suisse hefyd o’r farn bod cystadleuaeth yn y farchnad yn rhannol gyfrifol am arafu’r cynydd mewn prisiau.
Er yn ol yr ABI ( Association of British Insurers) mae’r sector yswiriant ceir wedi bod yn gwneud colledion pob flwyddyn ers 1994. A gyda chostau hawliadau yn parhau i gynnyddu mae’r sector yn talu allan £1 ...
S4C a’r BBC yn cytuno ar lywodraethia...
23/11/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Mae Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a'r Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi dod i gytundeb ynglŷn â chyllideb, llywodraethiant ac atebolrwydd S4C tan 2017.
Bydd y trefniadau yn amddiffyn annibyniaeth olygyddol a rheoli S4C tra'n gwarchod atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y BBC dros arian o'r ffi drwydded fydd yn cael ei wario ar y gwasanaeth.
Mae'r cytundeb yn cloi'r trafodaethau rhwng S4C, Ymddiriedolaeth y BBC, a Llywodraeth y DU, wedi setliad ffi drwydded y BBC llynedd pan gytunwyd i sefydlu partneriaeth newydd a threfniadau cyllido i S4C. Mae'n dilyn y cyhoeddiad ddoe gan y BBC ynglŷn â lefel y ffi drwydded fydd yn cael ei ro ...
Hanner Cant
23/11/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd Cymdeithas yr iaith yn trefnu nifer o ddigwyddiadau i nodi pen-blwydd y mudiad yn hanner cant ac i gydnabod pum degawd o ymgyrchu brwd o blaid y Gymraeg. Sefydlwyd y Gymdeithas ar y 4ydd Awst, 1962 ym Mhontarddulais. Roedd darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn ysbrydoliaeth i sefydlu'r Gymdeithas.Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle arbennig i bobl o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, i ddathlu hanes ein hymgyrchu dros yr iaith Gymraeg. Rydyn ni yn y Gymdeithas yn fudiad o bobl sydd yn dibynnu ar weithredoedd a brwdfrydedd unigolion a chymunedau dros y Gymraeg. Dyma ein cyfle i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymroddiad ac hefyd ysbrydoli cenhedlaeth newydd a fydd yn ...