Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

S4C yn cyhoeddi Adroddiad Richie Turner

29/11/2011
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Mae Awdurdod S4C wedi cyhoeddi Adroddiad Richie Turner am effeithlonrwydd ac arloesedd y sianel.
Mae'r adroddiad yn cynnwys sawl beirniadaeth o reolaeth y sianel, ac yn cynnig nifer o argymhellion i wella rheolaeth, diwylliant a chyfathrebu mewnol S4C.
Dywedodd yr awdurdod eu bod yn derbyn yr argymhellion a'u bod eisoes wedi gweithredu cynnwys yr adroddiad.
Cafodd Adroddiad Turner ei gomisiynu gan Awdurdod S4C ac fe gyhoeddwyd rhai o'r canfyddiadau mewn papur newydd ym mis Gorffennaf - fisoedd cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi'n swyddogol.
Roedd Mr Turner o Academi Fyd-eang Prifysgol Cymru.
Wedi hyn fe wnaeth y brifysgol gychwyn ymchwiliad ac fe gafodd aelod o staff - nid awdur yr adro ...

darllenwch mwy

Gary Speed wedi marw

27/11/2011
Categori: Chwaraeon, Newyddion

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Gary Speed, wedi marw.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod Speed, 42 oed, wedi ei ganfod yn farw.
"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn drist iawn o orfod cyhoeddi marwolaeth rheolwr y tîm cenedlaethol, Gary Speed," medd y datganiad.
"Rydym yn estyn ein cydymdeimlad i'r teulu.
"Rydym yn gofyn i bawb barchu preifatrwydd y teulu yn y cyfnod trist iawn yma."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sir Caer: "Am 7:08am fore Sul, cafodd Heddlu Sir Caer wybod am farwolaeth sydyn mewn eiddo yn Huntington.
"Aeth swyddogion i'r safle a dod o hyd i ddyn 42 oed yn farw.
"Mae'r teulu agos wedi cael gwybod, a ...

darllenwch mwy

Partneriaeth cyffrous rhwng Lleol.net...

25/11/2011
Categori: Ar-lein, Newyddion

Hoffech chi ddenu rhagor o gwsmeriaid?  A helpu'r Gymraeg ar yr un pryd? 
 
Heb dalu ceiniog?
 
Darllenwch ymlaen i ganfod sut y gall partneriaeth cyffrous rhwng Lleol.net a SaySomethinginWelsh.com fod o fudd i'ch busnes chi:
 
Beth yw SaySomethinginWelsh?
 
Cwrs Cymraeg byd-eang yw SaySomethinginWelsh.com (SSiW), sydd â dros 16 000 o ddysgwyr wedi'u cofrestri.  Nid oes unrhyw ddarllen nag ysgrifennu yng nghyrsiau SSiW, felly mae unrhywun sydd yn defnyddio ein cwrs yn dysgu i siarad o'r cychwyn cyntaf.  Mae gennym fforwm cyfeillgar sydd yn hybu hyder ein dysgwyr trwy gynnig cymorth a chymdeithas, ac mae nifer o grwpiau siarad wedi'u cychw ...

darllenwch mwy

Dyfodol Tu Chwith

24/11/2011
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

"Rydym yn hynod siomedig i glywed nad yw’r Cyngor Llyfrau am gefnogi cylchgrawn Tu Chwith yn ariannol o hyn ymlaen. Dyma’r unig gyhoeddiad i bobl ifainc, gan bobl ifainc, a bydd yn ergyd fawr i’r rhai sydd am gyhoeddi am y tro cyntaf a meithrin hyder yn eu gwaith.  Mae’n ergyd i ni hefyd am i’r penderfyniad gael ei wneud cyn i ni, fel golygyddion newydd, gael cyfle i gyhoeddi ein cyfrol gyntaf.
 
Mae llawer iawn o bobl wedi gweithio’n wirfoddol, i gadw’r cylchgrawn yma ar ei draed gan fod cyfran helaeth y grant yn mynd tuag at gostau cynhyrchu.  Mae’n drueni bod y cylchgrawn, a gychwynnwyd o dan olygyddiaeth Dr Simon Brook ...

darllenwch mwy