Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

Yr heddlu am holi dyn yn dilyn mosodi...

25/02/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio wedi i actor gael ei anafu'n ddifrifol wedi rhyddhau llun o ddyn maen nhw'n awyddus i siarad â fo.
 
Mae Rhys ap William, 37 oed, yn gwella ar ôl ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd yn ystod oriau man bore Sul.
 
Yn ôl yr heddlu, fe gafodd yr actor ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol i'w ben y tu allan i dafarn yr Admiral Napier ar Heol Ddwyreiniol Y Bont-faen yn Nhreganna, tua 0.19am.Llun CCTV Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gyda'r dyn yma a welwyd ger y dafarn
 
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i adroddiadau am y digwyddiad ac yn apelio am dystion.
 
Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yng ng ...

darllenwch mwy

Dangos Talent Newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

20/02/2013
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Bydd prosiect Mentro CDG Sir Gâr yn cynnal ‘Ar y Tracs’, cyfres o berfformiadau byw ar drên Rheilffordd Calon Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth.

Gan adael o Lanymddyfri, bydd teithwyr yn mwynhau perfformiadau byw gan artistiaid newydd gorau Sir Gâr wledig wrth i’r trên fynd trwy Langadog, Ffairfach, Rhydaman a Llangennech cyn cyrraedd Llanelli.

Bydd y perfformiadau yn cynnwys: setiau acwsteg gan Gillie Rowland a Martin Goddard, barddoniaeth gan Frank Thomas, caneuon gwerin gyda’r Aunty Depressants a set gan y DJ Jason Lye Phillips.

Mae’r holl artistiaid sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad wedi gweithio’n agos gy ...

darllenwch mwy

S4C yn gwahodd syniadau o ran sefydlu...

07/02/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Fel rhan o astudiaeth i'r posibilrwydd o adleoli rhannau o S4C, mae'r darlledwr wedi gwahodd ymateb gan gyrff neu sefydliadau fyddai â diddordeb mewn gweithio gyda S4C i chwilio am leoliadau newydd.Mae modd i unrhyw gorff, sefydliad neu gwmni gyfrannu syniadau sut y gallen nhw gydweithio ag S4C ac eraill i roi cartre’ newydd i rannau o waith y Sianel mewn unrhyw ran o Gymru.Yn ôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, fe fydd natur yr ymateb yn helpu S4C i i wneud penderfyniadau pwysig ynglyn â’i dyhead i symud rhannau o’r gwaith i rannau eraill o Gymru.Dywedodd Garffild:“Mae’r gwahoddiad yma yn un agored ...

darllenwch mwy

Dysgwr Cymraeg o Lundain yn canu'r an...

02/02/2013
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth

Mae Simon Howard sy’n enedigol o Newcastle wedi bod yn byw yn Llundain am y 13 blynedd diwethaf ac wedi bod yn dysgu Cymraeg yn raddol bach.
 
Mae ganddo chwaer sydd wedi priodi a Chymro ac o ganlyniad i hyn mae wedi dysgu ambell air Cymraeg a nawr yn galw eu hun yn Gymro.
 
Dyma fe yn chwarae’r Ukulele ac yn canu’r anthem genedlaethol Cymru.