Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

Tymor yr Hydref yng Nghanolfan Mileni...

22/08/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Wrth i haf prysur ddod i ben yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, maen nhw nawr yn paratoi am arlwy’r hydref. Gyda sioeau cerdd mawr fel Dirty Dancing a The Phantom of the Opera ar y gweill, bydd y Ganolfan hefyd yn ail agor drysau ei Stiwdio Weston, sydd, fel ei harfer yn cynnig gwledd o berfformiadau o sbectrwm eang y celfyddydau.
 
Dyma rai o uchafbwyntiau hanner cyntaf y tymor, ond am y rhaglen lawn gallwch un ai godi copi o’r Ganolfan neu ewch i wmc.org.uk/stiwdioweston i’w lawrlwytho.
 
Mae Dafydd Iwan yn dod i’r Ganolfan gyda dau berfformiad arbennig o’i sioe, Dathlu Hanner Canrif o Berfformio. Ar 19 Hydref, am ganol dydd, bydd Dafydd yn cael cwmn ...

darllenwch mwy

Cystadleuaeth Stori Fer Taliesin a BB...

16/08/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Eleni bydd BBC Radio Cymru mewn cydweithrediad â'r cylchgrawn llenyddol Taliesin yn cynnal cystadleuaeth sgwennu stori fer i ddathlu penblwydd y cylchgrawn yn 50 oed.Gwobr o £1000 i'r enillydd + Cyfle posib i glywed darllediad o'r gwaith buddugol ynghyd â gweld ei gyhoeddiDyddiad Cau: 5pm ddydd Llun 12 Tachwedd 2012Gwobr: £1000Nifer Geiriau: Hyd at 5,000 o eiriauDylid anfon ceisiadau at: storifer@bbc.co.ukWrth anfon cais mae ymgeiswyr yn derbyn Telerau ac Amodau'r gystadleuaeth sydd i'w gweld ar wefan BBC Radio Cymru.
 
Panel BeirniaduMihangel Morgan - Cadeirydd y panelLowri Davies - (Golygydd Rhaglenni Cyffredinol BBC Radio Cymru)Siân Melangell Dafydd (G ...

darllenwch mwy

Gerallt yn cerdded pob cam gyda Rhys ...

16/08/2012
Categori: Newyddion

Rhwng 20 a 24 Awst bydd Heno yn dilyn taith gerdded elusennol Rhys Meirion er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ymuno ag o mae Gerallt Pennant, ac mi fydd yn adrodd yn fyw ar y rhaglen i sôn am ddigwyddiadau’r dydd. Mae’r daith yn dechrau yn Abertawe ar nos Wener 17 Awst. Byddan nhw’n cerdded i’r Trallwng ac yna i Gaernarfon, sef lleoliad tair canolfan Ambiwlans Awyr Cymru.  Mae tipyn o sialens o dy flaen! Pam penderfynu cymryd rhan?  Pan soniodd Rhys wrtha i am y daith gerdded roeddwn i’n gwybod yn syth y buaswn i’n hoffi ymuno ag o. Pan gafodd o’i ddewis yn llysgennad elusen Ambiwlans Awyr Cymru roedd o’n benderfynol o wneud rhywb ...

darllenwch mwy

Safon Uwch: Llai yn llwyddo i ennill ...

16/08/2012
Categori: Addysg, Newyddion

Cafodd canlyniadau Safon Uwch eu cyhoeddi ddydd Iau. Adroddiad Gwenfair Griffith.Mae canran y disgyblion gafodd y graddau uchaf yn yr arholiadau Safon Uwch wedi gostwng yng Nghymru, tra bod yna gynnydd bach yn y rhai enillodd graddau A*-E.Wrth i ddisgyblion Cymru gael eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau fe lwyddodd 97.6% o ddisgyblion i ennill graddau A*-E o'i gymharu â 97.2% y llynedd.Ond gostwng wnaeth canran y disgyblion enillodd A* o 6.3% yn 2011 i 6.0% ac mae nifer y rhai enillodd A neu A* wedi gostwng o 23.9% i 23.6% eleni, y canran isaf er 2006.Roedd mwy o ddisgyblion wedi astudio'r Bagloriaeth Gymraeg gyda 8,259 o ddisgyblion yn derbyn gradd A o'i gymharu â 6,948 yn 2011, ...

darllenwch mwy