OPRA Cymru yn mynd ar ei chweched taith genedlaethol

17/02/2016

Categori: Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Bydd OPRA Cymru yn mynd ar ei chweched taith genedlaethol fis Mawrth eleni gyda chynhyrchiad Cymraeg newydd o gomedi poblogaidd Donizetti, Deigryn yn y Dirgel (L’Elisir d’Amore).

Ar ôl llwyddiant y cwmni yn y gorffennol, byddwn yn ymweld â mwy o leoliadau nac erioed ar y daith hon. Yn serennu eleni fydd y tenor dawnus, Rhodri Prys Jones yn chwarae’r brif ran o Nemorino, Aoife O’Connell fel Adina. Meilir Jones, y bariton o Langefni, yn chwarae rhan Belcore a’r profiadol Gareth Rhys Davies fel y Dr. Dulcamara. Yn ogystal, bydd cerddorfa siambr OPRA Cymru o dan arweiniad Anthony Negus Cyfarwyddwr Cerdd Gŵyl Opera Longborough.

 

Talentau disglair Cymru

 

‘Mae hi’n argoeli i fod y daith orau eto, a braf byddai cael eich cwmni wrth inni fwynhau talentau disglair Cymru.Mae hon yn daith nodedig i’r cwmni”, meddai Cyfarwyddwr Artistig Patrick Young, “Hon yw ein cynhyrchiad cyntaf i gynnwys cerddorfa siambr lawn a cyffrous iawn yw bod y cyntaf i berfformio opera wedi’i lwyfannu’n llawn yn Theatr Bryn Terfel, Pontio. Yn ogystal, hyd y gwyddwn, hon fydd y fersiwn Gymraeg gyntaf o opera boblogaidd Donizetti. Gyda chast talentog iawn yn ein cwmni, dwi’n hyderus y bydd hon yn argoeli i fod yn wledd a hanner!”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru