O Bydded i'r Bolycs barhau

01/11/2016

Categori: Ar-lein, Llenyddiaeth, Newyddion

Mae Gwasg Gomer yn cyhoeddi cyfrol hir ddisgwyliedig yn dethol rhai o uchafbwyntiau Bolycs Cymraeg sy’n mynd ati i dynnu blewyn o drwyn rhai o enwogion y Genedl ar y we.

Mae’r gyfrol yn llawn lluniau a chyfeiriadau at sefydliadau Cymru. Does yna neb yn saff rhag awdur Bolycs Cymraeg, gyda’r gyfrol yn darlunio llwyddiant y ffenomen sy’n boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Pwy yw’r bolycs?

 

Mae Bolycs Cymraeg yn awdur toreithiog ar Facebook a Trydar. Yn anhysbys i bawb ond ef neu hi ei hun mae’n postio a thrydar yn ddyddiol gan daflu sen, gwawdio a chorddi am y diweddara sy’n digwydd – ond nid mewn ffordd atgas, ciaidd ond gyda thinc yn y llais a fflach yn y llygad a phinshad fawr o ddireidi. Mae Bolycs Cymraeg yn mwynhau dilyniant torf o bobl sy’n taro mewn bob dydd i weld sut mae’n ail ddweud hanes Cymru llun wrth lun, a gair wrth air.

 

Fe gewch hyd i gartref Bolycs Cymraeg yma

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru