Mudiad yn gosod her i Gyngor Caerdydd dros addysg Gymraeg

07/08/2018

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Chaerdydd yr wythnos hon, mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi gosod her i Gyngor Caerdydd i sicrhau bod 1 o bob 5 o ddisgyblion y ddinas yn cael lle mewn dosbarthiadau Derbyn cyfrwng Cymraeg erbyn 2025.

Ar hyn o bryd mae bron 1 o bob 6 disgybl yn dechrau yn y Derbyn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

 

Dywedodd Michael Jones ar ran RhAG Caerdydd, ʺMae addysg Gymraeg wedi tyfu’n syfrdanol dros y 69 mlynedd ers agor yr ysgol Gymraeg gyntaf yn Sloper Road gyda 19 plentyn. Yn 2016, derbyniwyd 747 plentyn i gyfanswm o 17 ysgol gynradd yn y brifddinas sy’n meddu ar 28 ffrwd rhyngddynt sy’n cyfateb i leoedd ar gyfer 840 disgybl. Yn barod mae’r sir yn cynllunio i agor 2 ffrwd ychwanegol cyn 2020, un yn ysgol Nant Caerau yn y gorllewin a’r llall yn ysgol Penypil yn y dwyrain. Ar ben hyn mae cais gerbron y Llywodraeth am gyfran o’r £30M i hyrwyddo agor ffrwd arall yng ngogledd-canol y ddinas.

 

Ond yn ôl Mr Jones, hyd yn oed pe bai 31 ffrwd ar gael yn gynnar yn y ddegawd nesaf, ni fyddai’r ddarpariaeth yn ddigonol i gwrdd â’r galwcynyddol am addysg Gymraeg gyda 930 lle ar gael bob blwyddyn. Ni fyddai hynny’n cwrdd â’r twf blynyddol, sydd rhwng 5 a 6%, heb sôn am gynlluniau’r cyngor i ychwanegu 80,000 at boblogaeth y ddinas erbyn 2026. 

 

Bydd y tai newydd yn bennaf (1) yn yr ardal i’r gorllewin o Radur a elwir Plasdŵr, (2) ar safle hen felin papur i’r de o Barc Fictoria a elwir Melin Elai (3) ar safleoedd presennol y BBC yn Llandaf (4) ar dir amaethyddol rhwng Llysfaen a Phontprennau a (5) fel estyniad i Fro Eirwg Newydd i gyfeiriad Corsdir Gwynllwg. 

 

Helaethu Nant Caerau a Phenypil

 

Ychwanegodd Mr Jones, ʺMae modd dadlau y bydd helaethu Nant Caerau a Phenypil ar safleoedd newydd yn darparu ar gyfer yr ail a’r olaf o’r 5 ardal datblygu newydd, ond yn sicr bydd angen ysgolion newydd ym Mhlasdŵr ac yn y bwlch rhwng Llysfaen a Phontprennau ac mae’r sir yn derbyn hyn. Ond hyd yma maent yn ddall i’r angen i helaethu Ysgol Pencae ar safle arall i dderbyn o leiaf 2 ffrwd yn lle’r un presennol sydd yn un o’r 5 ysgol orlawn yn ardal gogledd-canol y ddinas."

 

ʺPe bai 4 neu 5 ffrwd ychwanegol yn dod yn sgîl y twf yn y boblogaeth fe fyddai hynny’n golygu derbyn tua 1100 disgybl y flwyddyn ond yn bur debyg y byddai’r cohort cyfan (Saesneg a Chymraeg) yn tyfu hefyd a’r ganran Cymraeg yn aros tua 20% o’r cyfan onibai am dwf hefyd yn y ddarpariaeth yn y ddinas fel y mae hi ar hyn o bryd. Bydd rhaid cadw golwg ar ble mae’r twf yn hawlio’r ddarpariaeth ychwanegol yma.”