Mudiad iaith yn galw ar y Gweinidog i ymyrryd yn Sir Ddinbych

25/03/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, i ymyrryd  wrth i ysgolion Sir Ddinbych wynebu ad-drefnu, gyda’r mudiad yn pryderu am leihad mewn darpariaeth addysg Gymraeg yn y sir.  

 

Mae'r Gymdeithas yn dadlau fod yr ymgynghoriad am gynnig y Cyngor i gau Ysgol Gymraeg Pentrecelyn ac anfon y plant at Ysgol Ardal newydd a fydd yn ddwyieithog yn gwbl annilys gan ei fod wedi'i seilio ar gamsyniadau sylfaenol.  

 

Daeth ymgynghoriad i ben yr wythnos hon ar gynnig y Cyngor i gau ysgolion Pentrecelyn a Llanfair Dyffryn Clwyd a sefydlu yn eu lle Ysgol Ardal a fyddai'n gweithredu ar y dau safle o Fedi 2016 ymlaen. Ond mae'r Gymdeithas wedi galw ar Huw Lewis i ymyrryd trwy gyfarwyddo'r Cyngor i ailddechrau trafod gyda rhanddeiliaid.  

 

Esbonia llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis, "Mae'r holl gynnig wedi'i seilio ar gamsyniad sylfaenol. Gofynnwyd yn wreiddiol i ysgolion Pentrecelyn a Llanfair Dyffryn Clwyd gydweithio mewn ffederasiwn, ond dywed y Cyngor yn eu dogfen ymgynghorol fod rheoliadau newydd y llywodraeth ar ffederaleiddio yn 2014 wedi gwneud hyn yn amhosibl gan fod un ysgol yn 'gymunedol' a'r llall yn eglwysig".  

 

"Ond petai'r Cyngor wedi astudio'r rheoliadau'n fanylach, byddai wedi gweld fod y llywodraeth yn cynnig opsiwn o "gyd-lafurio" rhwng dwy ysgol o'r fath - model sydd yr un fath a ffederasiwn ym mhopeth ond enw gyda chyd-fwrdd Llywodraethwyr i reoli'r ddwy ysgol. Ni roddwyd y wybodaeth hon, na'r opsiwn, yn y ddogfen ymgynghorol."

 

Sefyllfa anhygoel

 

Meddai Ffred Ffransis, "Yn lle hynny, mae gyda ni'r sefyllfa anhygoel fod y Cyngor wedi gofyn am ymateb cyhoeddus i gynnig sydd ddim hyd yn oed yn bodoli. Cynnig y Cyngor yw bod cau'r dwy ysgol a sefydlu Ysgol Ardal yn eu lle a fydd ar un safle erbyn Medi 2017. Ond doedd y Cyngor ddim yn gwybod ble fyddai'r safle na faint fyddai'n costio ac yn cydnabod yn y ddogfen fod "risg" na byddai cyllid i ddatblygu'r safle. Sut felly all pobl ymateb i gynnig nad sy'n bodoli?"  

 

Ychwanega Ffred Ffransis, ""Mae'r ddogfen ymgynghorol mor gamarweiniol fel na all fod yn sail at geisio barn cyhoeddus na chymryd penderfyniad. Dyna pam yr ydym ni wedi galw ar y Gweinidog i gyfarwyddo'r Cyngor i ailgychwyn y proses ar sail cywir." 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net